Brynsiencyn

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn ne-orllewin Ynys Môn, ym mhlwyf Llanidan, ar y ffordd A4080 rhwng Llanfairpwllgwyngyll a Niwbwrch, yw Brynsiencyn. O ganol y pentref, mae ffordd arall yn arwain i lawr at Afon Menai, lle mae Sw Môr Môn.

Gellir gweld nifer o hynafiaethau diddorol gerllaw'r pentref, yn cynnwys siambr gladdu Bodowyr, Castell Bryn Gwyn a Chaer Lêb. Brodor o Frynsiencyn oedd Robert ab Ifan, bardd ac uchelwr a flodeuodd rhwng 1572 a 1603. Daeth y pentref i amlygrwydd yn nechrau'r 20fed ganrif pan oedd John Williams, Brynsiencyn yn weinidog yno ac yn un o bregethwyr amlycaf Cymru.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato