Castell Bryn Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Bryn Gwyn.

Safle amddiffynol aml-gyfnod gerllaw Brynsiencyn ar Ynys Môn yw Castell Bryn Gwyn. Mae wedi ei ffurfio o glawdd pridd 10 medr o led a 2 fedr o uchder, ar ffurf cylch, 17 medr ar draws. Yn wreiddiol, roedd ffos yn ei amgylchynu.

Bu cloddio archaeolegol yma yn 1959-60, a dangoswyd fod y safle wedi ei defnyddio yn ystod sawl cyfnod. Cafwyd hyd i grochenwaith o'r cyfnod Neolithig. Yn ddiweddarach, ail-adeiladwyd y clawdd a chloddiwyd ffos newydd, efallai ar gyfer fferm gydag amddiffynfeydd. Cafwyd hyd i grochenwaith o ddiwedd y ganrif 1af OC, ac ymddengys i'r safle gael ei defnyddio mewn cyfnod diweddarach hefyd.

Cred rhai ysgolheigion mai'r safle yma oedd "Castell Bon y Dom", y dywedir i Olaf Sigtryggsson, taid Gruffudd ap Cynan ei adeiladu yn nechrau'r 11eg ganrif. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth bendant i gefnogi hyn.

Gerllaw ceir Meini hirion Bryn Gwyn.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1