Llan-faes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y pentref ym Môn yw hon. Am y gymuned ym Mro Morgannwg gweler Llan-faes (Bro Morgannwg). Gweler hefyd Brodordy Llan-faes.
Eglwys Llan-faes.

Pentre a safle hen fynachlog, yn ymyl Biwmares yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llan-faes (hefyd Llanfaes). Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai. Hyd dechrau'r 19eg ganrif roedd gwasaneth cwch fferi yn mynd â theithwyr drosodd rhwng glan-môr Llan-faes a man ar Draeth Lafan a gyrchid o Abergwyngregin.

Mynachlog Llan-faes[golygu]

Prif: Brodordy Llan-faes.

Cododd y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) fynachlog i Urdd Sant Ffransis yn Llan-faes er anrhydedd i'w wraig Siwan, merch y brenin John o Loegr ar ôl iddi farw yn 1237. Ceir yr hanes yn Brut y Tywysogion:

Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.

Symudwyd beddrod Siwan i eglwys Biwmares, lle mae i'w weld heddiw.

Er gwaethaf protestiadau yn erbyn y cynllun, codwyd gwaith carthffosiaeth ar safle'r fynachlog yn y 1990au gan Dŵr Cymru.