Traeth Lafan

Oddi ar Wicipedia
Traeth Lafan
Mathtraeth, bar Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaJohn Evans, cocsen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.240944°N 4.043623°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Traeth Lafan o lan-môr Llanfairfechan gydag Afon Menai ac Ynys Môn yn y cefndir

Mae Traeth Lafan yn draeth llanwol eang ym Mae Conwy rhwng Bangor, Gwynedd a Llanfairfechan, Sir Conwy yng ngogledd Cymru.

Ardal o fanciau tywod a mwd rhynglanwol ydyw, ar ben dwyreiniol Afon Menai. Ei arwynebedd pan fo'r llanw allan yw 2642 hectar. Pan fo'r llanw allan mae nifer o ffrydiau bychain dŵr croyw yn rhedeg drosto i'r môr. Mae'n cynnwys banc tywod anferth ar ei ymyl ogledd-ddwyreiniol a elwir yn Fanc y Dytshmon (Dutchman's Bank). Yn ôl traddodiad roedd y traeth yn dir sych ar un adeg ac yn rhan o deyrnas chwedlonol Tyno Helig a foddiwyd un noson ystormus.

Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff Siwan (gwraig Llywelyn Fawr) i'w orffwysfa ym mynachlog Llan-faes yn 1237. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar 6 Tachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.

Dyma gofnod o groesi Traeth Lafan ar y fferi ar 28 Medi 1685:

We passed over Penmaenmawr at the foot of which on this side I met Lord Bulkeley's coach and servants, but they told as they had escaped very narrowly being cast away in coming over the (Beaumaris) ferry, and that the winds were so high that it was not fit for us to attempt that way[1]

Gwerth amgylcheddol[golygu | golygu cod]

Mae glannau Traeth Lafan ynghyd â'r traeth ei hun yn Ardal Warchodedig Arbennig (AWA / SPA) am ei fod yn gartref i gynifer o adar. Mae'n safle arbennig o bwysig yn y gaeaf, pryd ceir nifer o adar dŵr yno, yn arbennig piod y môr (Haematopus ostralegus). Pan fo'r tywydd yn ddrwg yn y gaeaf daw nifer o biod y môr draw o Lannau Dyfrdwy i gysgodi. Mae hefyd niferodd o bwysigrwydd rhyng-genedlaethol o'r Pibydd coesgoch (Tringa totanus) yn gaeafu yma. Rhwng Bangor a Llanfairfechan mae nifer o warchodfeydd sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn bennaf ar gyfer adar: Aberogwen, Morfa Aber, Morfa Madryn a Glan-y-môr Elias.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lord Clarendon: Trans. AAS&FC 1961