Urdd Sant Ffransis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Ffransis; llun gan El Greco.

Urdd Sant Ffransis neu Urdd y Brodyr Lleiaf neu'r Ffransiscaid (Lladin: Ordo Fratrum Minorum, yw'r rhai yn yr Eglwys Gatholig sy'n dilyn "Rheol Sant Ffransis". Cyfeirid atynt yn aml yng Nghymru fel y Brodyr Llwydion.

Sefydlwyd yr urdd gan Sant Ffransis o Assisi (1181 - 1226). Yn gynnar yn 1209. clywodd bregeth a newidiodd ei fywyd. Roedd y bregeth ar Matthew 10:9, lle mae Iesu yn dweud wrth ei ddilynwyr am fyned allan heb arian, na hyd yn oed ffon gerdded. Dilynodd Ffransis y gorchymyn, gan deithio o le i le yn droednoeth yn pregethu edifeirwch. Cyn hir, ymunodd ei ddilynwr cyntaf, Bernardo di Quintavalle, ag ef, ac ymhen blwyddyn roedd ganddo unarddeg o ddilynwyr. Aethant i Rufain i ofyn caniatad Pab Innocent III i ffurfio urdd grefyddol newydd. Gwrthododd Innocent, ond y noson honno cafodd freuddwyd lle gwelodd ddyn tlawd yn cynnal eglwys adfeiliedig rhag syrthio. Galwodd Ffransis yn ôl a newidiodd ei benderfyniad.

Ymhlith aelodau enwog o'r Urdd mae Anthoni o Padua, Bonaventure, John Duns Scotus, Jacopone da Todi (awdur tybiedig y Stabat Mater), Roger Bacon, François Rabelais, Alexander o Hales, William o Ockham, Giovanni da Pian del Carpini, Pio o Pietrelcina, Mychal F. Judge a Gabriele Allegra.

Mae tair cangen i'r Ffransiscaid modern: Ordo Fratrum Minorum, Ordo Fratrum Minorum Capuccinorum a'r Ordo Fratrum Minorum Conventualium.

Urdd Sant Ffransis yng Nghymru[golygu]

Cyhaeddodd yr Urdd i Gymru yn weddol fuan wedi marwolaeth Sant Ffransis; sefydlodd Llywelyn Fawr dŷ iddynt yn Llan-faes ar Ynys Môn yn 1237. Ceir yr hanes yn Brut y Tywysogion:

Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn llys Aber; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarch, roeddynt wedi ychwanegu tai yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Credir fod y bardd crefyddol Madog ap Gwallter o ail hanner y 13eg ganrif yn aelod o'r Urdd. Yn yr un cyfnod roedd yr ysgolhaig Ffransiscaidd Johannes Wallensis a fu farw yn 1285 yn gweithio yn Rhydychen a Paris. Yn ddiweddarach roedd y merthyr Catholig Sant John Jones (1559 - 1598), a aned yng Nghlynnog Fawr, yn perthyn i'r Urdd.

Heddiw mae tŷ Ffransiscaidd ym Mhantasaph ger Treffynnon yng Ngogledd Cymru.