Llantrisant, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°19′25″N 4°27′28″W / 53.323617°N 4.457683°W / 53.323617; -4.457683

Llantrisant, Ynys Môn
Eglwys Llantrisant - geograph.org.uk - 159448.jpg
Llantrisant is located in Ynys Môn
Llantrisant

Llantrisant Ynys Môn
Cyfeirnod grid yr AO SH38SE27
    - Caerdydd 138.4 mi (222.7 km)  
    - Llundain 221.4 mi (356.3 km)  
Cymuned Tref Alaw
Sir Ynys Môn
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Caergybi
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ynys Môn
Cynulliad Cymru Ynys Môn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn

Pentrefan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, Cymru yw Llantrisant. Fe'i lleolir ar gyffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Llanfaethlu i'r gorllewin a Llannerch-y-medd i'r dwyrain yng ngogledd-orllewin yr ynys, tua 8 milltir i'r dwyrain o Gaergybi. Mae'n blwyf eglwysig yn ogystal. Mae 138.4 milltir (222.7 km) o Gaerdydd a 221.4 milltir (356.3 km) o Lundain.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiria'r enw at y ffaith fod eglwys y plwyf yn gysegredig i dri sant, sef Afan, Ieuan a Sannan.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd y llan yn rhan o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw.[2]

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar gwr gogleddol y pentref ceir Cors-y-bol, ardal o wlybtir a groesir gan ffrwd sy'n llifo i gronfa Llyn Alaw. Tua milltir i'r de ceir Llyn Llywenan.

Cynrychiolaeth wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Llantrisant yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Albert Owen (Y Blaid Lafur).[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 158.
  2. Atlas Môn, tud. 37.
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato