Llifon

Oddi ar Wicipedia

Un o ddau gwmwd Cantref Aberffraw ym Môn yn Oes y Tywysogion oedd Llifon. Roedd yn gorwedd i'r gogledd o'r cwmwd arall, Malltraeth ac yn ffinio hefyd â rhan o gwmwd Menai (cantref Rhosyr) a chantref Cemais yn y dwyrain. Roedd rhan ddeheuol Ynys Gybi yn y cwmwd yn ogystal.

Roedd y cwmwd yn cynnwys sawl treflan ac aneddle ond ni wyddys i sicrwydd pa un oedd y maenor (prif dref y cwmwd).

Ganed y bardd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527) yng nghwmwd Llifon tua chanol y 15g.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Roedd tri phlwyf ar ddeg yn y cwmwd:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]