Cemais (cantref ym Môn)

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Llanbadrig, cwmwd Talybolion, cantref Cemais
Am y pentref ym Môn, gweler Cemaes. Ceir cantref arall o'r un enw yn Nyfed: gweler Cemais (cantref yn Nyfed)

Un o dri chantref Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol oedd Cemais. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys.

Ymrennir y cantref yn ddau gwmwd, sef Talybolion yn y gorllewin a Thwrcelyn yn y dwyrain. Roedd y cantref yn ffinio â chwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw yn y de-orllewin a chantref Rhosyr yn y de. Lleolid prif lys y cantref yng Nghemaes, cantref Twrcelyn. Fel gweddill yr ynys, roedd Cemais yn rhan o deyrnas Gwynedd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato