Llanfair-yn-Neubwll

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfair-yn-Neubwll. Saif y pentref i'r gogledd o Faes Awyr y Fali ac i'r dwyrain o'r culfor rhwng Ynys Môn ac Ynys Cybi.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Caergeiliog a Llanfihangel-yn-Nhywyn. Ceir nifer o lynnoedd yn yr ardal, mae Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg a rhan o Lyn Dinam yn ffurfio gwarchodfa adar Gwlyptiroedd y Fali, sy'n eiddo i'r RSPB.

Llyn Dinam a Llyn Penrhyn yw'r ddau "bwll" (llyn) y mae'r enw Deubwll yn cyfeirio atynt. Deubwll oedd enw'r 'dref' wasgaredig ganoloesol a chafwyd yr enw 'Llanfair-yn-Neubwll' i wahaniaethu rhwng yr eglwys a'r plwyf a lleodd eraill gydag eglwys (llan) a gysegrwyd i Fair. Felly hefyd, er y gwelir enghreifftiau o'r ffurf 'Llanfair-yn-neubwll' weithiau, 'Llanfair-yn-Neubwll' sy'n gywir am fod Deubwll yn enw lle penodol.[1]

Pan adeiladwyd y maes awyr yn 1943, gafwyd hyd i nifer fawr o arfau a chelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach. Ystyrir y darganfyddiad yma yn un o'r rhai pwysicaf o'r cyfnod yma yng Nghymru.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,688. 45.6% o'r rhain oedd yn medru Cymraeg, y ganran isaf ymhlith cymunedau Ynys Môn; mae hyn oherwydd y nifer fawr o bobl sy'n gysylltiedig a'r maes awyr a'u teuluoedd.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', Atlas Môn.