Llanddeusant, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Melin Hywel, Llanddeusant.

Lleolir pentref a phlwyf Llanddeusant, Ynys Môn, i'r gogledd o Afon Alaw ac i'r gorllewin o gronfa ddŵr Llyn Alaw. Mae yng nghymuned Tref Alaw. Mae'n un o sawl 'Llanddeusant' yng Nghymru.

Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw 'Melin Hywel'; mae ar agor i'r cyhoedd yn yr haf ar ôl iddi gael ei hatgyweirio yn 1975. Cofnodir melin yn y plwyf yn 1352.

Mae Ysgol Llanddeusant yn y pentref ers 1847, ond bydd yn cael ei chau yn 2009.

Enwogion[golygu]

  • Robert ap Huw (1580 - 1665), telynor enwog, bardd ac awdur llawysgrif bwysig ar gerddoriaeth gynnar Cymru, a aned ym Modwigan, ym mhlwyf Llanddeusant.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato