Robert ap Huw

Oddi ar Wicipedia
Robert ap Huw
Ganwyd1580 Edit this on Wikidata
Plas Penmynydd Edit this on Wikidata
Bu farw1665 Edit this on Wikidata
Llandegfan Edit this on Wikidata
Man preswylLlandegfan, Llanddeusant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
ArddullCerdd Dant Edit this on Wikidata

Cerddor, bardd 'tafarn' traddodiadol ac yn bennaf, copïwr cerddoriaeth oedd Robert ap Huw (1580 - 1665) a gofnododd hen donnau Cymreig a adnabyddir fel Llawysgrif Penllyn. Ystyrir y rhain fel y corff o gerddoriaeth telyn cyntaf drwy Ewrop, os nad y byd.[1]

Mae llawysgrif Robert ap Huw'n un bwysig iawn. Mae'n amlwg fod hon yn gerddoriaeth soffistigedig yr oedd angen cryn fedr a blynyddoedd lawer o astudio i'w meistroli. Mae gwreiddiau cynharach y casgliad hefyd yn hynod arwyddocaol, gan mai hwn yw'r casgliad cynharaf o gerddoriaeth delyn i oroesi yn Ewrop. Er bod llawer o ddyfalu o hyd ynghylch yr union ddehongliad o'r tabl nodiant, mae llawer o'r gerddoriaeth bellach wedi'i hail-greu'n weddol lwyddiannus, ac o'r diwedd ceir ryw syniad o sut y gallai'r gerdd dant ganoloesol a gofnodir yn llyfr Robert ap Huw fod wedi swnio.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Robert ap Huw yn fab i Huw ap Siôn (m. 1590/91?) a'i wraig, Catrin (m. 1644), ac mae'n debyg iddo gael ei eni ym Mhlas Penmynydd, Môn, cartref ei nain ar ochr ei fam, Margaret, un o ferched Richard Owain Tudur o Benmynydd. Roedd, felly'n un o ddisgynyddion Tuduriaid Penmynydd. Roedd yn ŵyr i'r bardd Siôn Brwynog (1510-1562) o Lanfflewyn, Môn.

Fe'i magwyd ym Modwigan, Llanddeusant, ac mae'n ddigon posibl mai ef yw'r boye of llan ythyssante … harper a grybwyllir mewn rhestr o daliadau ym Môn yn 1594–5. Mae ‘cywydd i ofyn telyn', c.1618, gan Huw Machno (c.1560–1637) yn pwysleisio tras Robert ym Môn, gan gynnwys y cysylltiad â Phenmynydd (‘Gwaed o Ben, goed a bonedd, / – Mynydd ym Môn, union wedd').

Erbyn 1615/16 cyfeirir ato fel pencerdd telyn. Cafodd ei apwyntio yn delynor i Iago I, brenin Lloegr a'r Alban. Ymddengys fod ail hanner bywyd Robert yn llai crwydrol. Ar ôl ei briodas yn 1623 â Grace, merch Robert ap Thomas o Landegfan, ger Porthaethwy, ymddengys iddo ymgartrefu yn Llandegfan fel ffermwr hamdden. Yn ôl ei ewyllys (18 Mai 1665), roedd yn gymharol gefnog ac yn dymuno cael ei gladdu yn eglwys y plwyf, Llandegfan. Gadawodd ei lyfrau i un o'i wyth plentyn, Henry Hughes, a'i delyn orau i'w fab bedydd, Robert Edwards, ar yr amod na fyddai'n ‘remove from it the Kings Arms fixed thereon' (arwydd herodrol, mae'n debyg, a roddwyd am wasanaeth yn y llys).

Cedwir naw o gerddi rhydd ar gyfer y delyn ganddo.[2]

Llawysgrif[golygu | golygu cod]

Mae peth o gerddoriaeth Cymru'r Oesoedd Canol wedi goroesi yn llawysgrif Robert ap Huw a gopiwyd tua 1613. Mae'r llawysgrif, a adnabyddir fel Llawysgrif Penllyn, yn cynnwys tua 30 o ddarnau ar gyfer y delyn sydd wedi eu dyddio i'r cyfnod 1340-1485. Mae'n cynnwys y trebl a'r bas a dyma'r llawysgrif hynaf o gerddoriaeth delyn yn y byd. Technegau'r delyn tannau efydd a amlygir yn llawysgrif Ap Huw drwyddi draw. Mae'n cynnwys nifer o ffurfiau cerddorol megis Gostegion, Caniadau a Phrofiadau ar bedwar mesur ar hugain cerdd dant (Corffiniwr, Mac y Mwn Hir, Tytyr Bach at ati). Mae'r gerddoriaeth wedi ei seilio ar strwythur dau ddosbarth o nodau syn ffurfio harmoni'r Cyweirdant a'r Tyniad ar sylfaen harmonig nid annhebyg i'r double tonic a glywir yng ngherddoriaeth pibau mawr yr Alban.[2]

Yn ôl yr academydd Sally Harper, "Mae ei dabl nodiant llythrennau hynod gynnil yn unigryw, a bu'n destun rhyfeddod ers ailddarganfod y llawysgrif gan Lewis Morris yn y 1720au."[3]

Mae'r llawysgrif, felly'n cynnwys cyfres o bedwar o ostegion; pedair cyfres o ‘ymarferion' a elwir yn glymau cytgerdd (yr honnir eu bod yn dod o lyfr arall a oedd yn eiddo i'r telynor Wiliam Penllyn); a phymtheg o ganiadau (wedi'u trefnu'n ddau grŵp gwahanol). Ceir hefyd saith o brofiadau a grŵp o ddarnau llawer byrrach: erddigan, pwnc i'w chwarae ar ôl pob profiad, profiad cyffredin a dau ddarn o'r enw cainc. Cysylltir un o'r ceinciau â Dafydd Broffwyd, sef Dafydd Frenin y Beibl; a'r llall â'r bardd Gruffudd ab Adda (bl.c.1340–70), sy'n dwyn i gof englyn a dadogir ar Ruffudd ei hun (‘Cainc Ruffudd, groyw-wŷdd ddi-gryn, / Ab Adda, nis gŵyr bowddyn'). Mae'n bosibl fod ceinciau cerddorol byr o'r math hwn yn cael eu defnyddio fel cyfeiliant ailadroddus syml i ddatgan barddol, ac mae holl gynnwys llawysgrif Robert ap Huw yn adlewyrchu'r plethu agos rhwng cerdd dant, y grefft gerddorol, a cherdd dafod, crefft barddoniaeth lafar beirdd Cymru, a oedd yr un mor soffistigedig.

Dyddio'r casglaidau[golygu | golygu cod]

Cerdd dant yr Oesoedd Canol hwyr yw cynnwys llawysgrif Robert ap Huw – deunydd crai bardd-delynorion proffesiynol Cymru, yr oedd ei wreiddiau'n mynd yn ôl i'r 14g o leiaf. Ymddengys fod y rhan fwyaf o'r darnau'n bodoli ar ryw ffurf cyn 1500, ac mae'n bosibl fod un neu ddau ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod Dafydd ap Gwilym hyd yn oed, er nad yw'n ymddangos fod unrhyw beth wedi ei nodi'n ysgrifenedig cyn yr 16g, pan gredir i'r tabl nodiant gael ei ddyfeisio, efallai â chymorth y bardd-delynor Wiliam Penllyn (c.1560–80). Roedd casglu a thrawsgrifio deunydd barddol cynharach yn weithgaredd llenyddol cyffredin yng Nghymru o ddiwedd yr 16g, ac mae'n bosibl mai cywreinrwydd am lawysgrifau a oedd yn rhannol gyfrifol am ddenu'r Robert ap Huw ifanc i Ddyffryn Clwyd yn 1599.

Mae'n bosibl bras-ddyddio rhai o'r darnau yn ei gasgliad drwy eu cysylltiad â cherddor neu farddgerddor a enwir, gan gynnwys Cynwrig Bencerdd (y telynor buddugol yn Eisteddfod Caerfyrddin c.1452), Y Brido (a grybwyllir gan y bardd Guto'r Glyn) a'r Llwyteg (y gwyddys ei fod yn canu ddiwedd y 15g.). Mae'r ffurfiau a gynrychiolir bron i gyd yn rhan o'r deunydd eisteddfodol cyfoes a adlewyrchir yn Statud farddol enwog Gruffudd ap Cynan. Mae'n debyg i'r Statud gael ei llunio ar gyfer eisteddfod enwog Caerwys 1523 a'i haddasu ar gyfer eisteddfod 1567, ond mae'n seiliedig ar ddeunydd llawer hŷn; ynddi manylir ar y gofynion ar gyfer gwahanol raddau o delynorion.

Y tabl nodiant[golygu | golygu cod]

Mae Robert ap Huw'n enwog heddiw oherwydd i ddetholiad rhyfeddol o gerddoriaeth i'r delyn oroesi yn ei law ef, yn cynnwys dros ddeg ar hugain o gyfansoddiadau mewn tabl nodiant Cymreig unigryw. Mae'n debyg iddo gael ei gopïo c.1613, er mai dim ond yn yr 1720au y cafodd ei ‘ailddarganfod' – ymddengys i'r hynafiaethydd o Fôn, Lewis Morris (1701–65), ddod ar ei draws ym Modorgan yn 1723–4 ac yntau'n gweithio fel syrfëwr tir i Syr Owen Meyrick. Yn ôl pob golwg roedd y llawysgrif ym meddiant Morris erbyn diwedd y degawd hwnnw, ac mae'n debyg iddo ychwanegu ei restr gynnwys ei hun a thudalen deitl newydd yn fuan wedyn, gan gofnodi ychwanegiadau eraill yn fwy graddol.

Mae'r tabl nodiant ei hun yn cynnwys sawl elfen wahanol, ac yn rhyfeddol o gynnil. Cynrychiolir traw gan lythrennau: o a i g (yn cynrychioli tannau'r delyn), ac ni cheir arwyddion cyweiriau, hapnodau na llinellau erwydd. Weithiau cyfarwyddiadau geiriol byr yn unig a roddir i'r telynor, gyda chyfres o arwyddion troellog a chroesau'n dangos gwahanol fannau dychwelyd ac ailadrodd. Caiff rhai nodweddion eu hegluro gan ddeunyddiau eraill sydd wedi'u copïo gan Robert ap Huw yn y llawysgrif. Mae'n rhestru pedwar mesur ar hugain y canon cerdd dant ar t.107: mae'r rhain yn sail i bob un o'r darnau estynedig ar wahân i'r profiadau, ac yn cynnwys patrymau dwyran syml yn seiliedig ar chwarae dwy elfen harmonig gyferbyniol bob yn ail, sef y cyweirdant a'r tyniad, a ddiffinnir gan ddau grãp ategol o nodau sy'n rhoi cyfeiriad harmonig i'r darn. Mae tabl arall ar t.35 o dan yr enw ‘gogwyddor i ddysgu y prikiad' (sydd efallai'n awgrymu mai hyfforddi yw'r nod) yn dangos dau fath ar bymtheg o addurniadau melodig, yn ymwneud â gwahanol ffyrdd o blycio tannau'r delyn ac o bylu'r sain: mae'r rhan fwyaf yn defnyddio rhan uchaf y llaw a rhai'n golygu defnyddio'r ewinedd. Mae nifer o wahanol batrymau o nodau hefyd o dan yr enw ‘kower' ar tt.108–9 sydd efallai â rhyw gysylltiad â chyweiriadau sgordatura (anghytgordio).

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Pan fu Lewis farw, aeth y llawysgrif i feddiant ei frawd Richard, a ychwanegodd ragor o ddeunydd ar y tudalennau gwag a rhoi ei benthyg i nifer o bobl eraill a oedd â diddordeb. Wedi hynny fe'i gadawyd i'r Ysgol Gymraeg yn Llundain yn 1779, a'i chyflwyno gan lywodraethwyr yr ysgol i'r Amgueddfa Brydeinig yn 1844; bellach fe'i cedwir yn y Llyfrgell Brydeinig (fel MS Additional 14905). Er mai'r llawysgrif hon yn unig a oroesodd, mae'n amlwg fod Robert ap Huw wedi copïo o leiaf ddwy gyfrol arall o gerddoriaeth telyn mewn dull tebyg, gan fod y llawysgrif yn cynnwys rhestri o eitemau eraill o'r fath. Mae tri darn tebyg hefyd wedi goroesi mewn casgliad llawysgrif amrywiol a drawsgrifiwyd yn 1800 gan Iolo Morganwg; honnir iddynt gael eu copïo o ffynhonnell (sydd wedi hen fynd ar goll ers hynny, a oedd yn eiddo i'r bardd o'r Blaenau, Llanfachreth, Rhys Jones (1718–1801).

Mae'r ddeuawd Bragod, sef Robert Evans a Mary-Anne Roberts wedi atgyfodi llawer o waith Robert ap Huw. Mae Evans wedi datblygu technegau crwth a lyra ar sail ysgrifau hynafol o Gymru ac Ewrop gan gynnwys gwaith Robert ap Huw; daw seiliau iaith gerddorol y grŵp yn bennaf o'r gerddoriaeth a nodir yn llawysgrif telyn Robert ap Huw (c.1580–1665) (Y Llyfrgell Brydeinig, Llawysgrif Add. 14905). Addasodd Robert Evans gerddoriaeth telyn llawysgrif Robert ap Huw er mwyn ei chanu ar y crwth, yn ogystal â chreu cerddoriaeth newydd ar sail y mesurau, y cyweiriau (h.y. y tiwniadau moddau) a'r addurniadau a nodir ynddi.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968)
  • Dafydd Wyn Wiliam, Robert ap Huw (1580–1665): Astudiaeth o'i Gefndir, ei Fywyd a'i Waith (Dinbych, 1975)
  • Osian Ellis, Hanes y Delyn yng Nghymru (Caerdydd, 1980)
  • Peter Crossley-Holland, The Composers in the Robert ap Huw Manuscript: The Evidence for Identity, Dating and Locality (Bangor, 1998)
  • Sally Harper (gol.), Robert ap Huw Studies / Astudiaethau Robert ap Huw, Welsh Music History / Hanes Cerddoriaeth Cymru cyfrol 3 (Caerdydd, 1999)
  • ———, Robert ap Huw and his manuscript of harp music, Anglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions (2000), 7; 20
  • Peter Greenhill, The Robert ap Huw Manuscript: An Exploration of its Possible Solutions, 5 cyfrol (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2000)
  • Sally Harper, Datblygiad cerdd dant yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, Cof Cenedl, 19 (2004), 1–35
  • Bethan Miles, ‘Robert ap Huw', Oxford Dictionary of National Biography, gol. C. Matthew, B. Harrison et al., 60 cyfrol (Rhydychen, 2004; ar-lein <http://www.oxforddnb.com/>)
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650 (Aldershot, 2007)
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Huw, Robert ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. trac-cymru.org; adalwyd 30 Tachwedd 2015
  2. 2.0 2.1 Dafydd Wyn Williams, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (1989).
  3. "Gwefan www.dafyddapgwilym.net, Prifysgol Abertawe". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-22. Cyrchwyd 2010-07-05.