Melin Llynnon

Oddi ar Wicipedia
Melin Llynon
Mathmelin wynt Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-RandomWilliams1908-Melin Llynon (Q6812427).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTref Alaw Edit this on Wikidata
SirTref Alaw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr42 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3379°N 4.49388°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Melin wynt ger pentref Llanddeusant, Ynys Môn yw Melin Llynnon. Ar un adeg roedd dros 30 o felinau gwynt ar Ynys Môn[1] ond bellach, Melin Llynnon yw'r unig felin wynt weithredol sydd ar ôl yng Nghymru.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y felin dros gyfnod o saith mis rhwng 1775 a 1776 ar gôst o £529 11s ar dir oedd yn berchen i'r llawfeddyg, Herbert Jones.[3]. Thomas David oedd y melinwr cyntaf ond cafodd ei ddiswyddo ar ôl chwe mlynedd am iddo beidio gwneud gwaith cynnal a chadw[3]. Thomas Jones oedd yr ail felinwr a bu'n gweithio Melin Llynnon am 64 mlynedd hyd nes ei farwolaeth yn 90 mlwydd oed ym 1846. Bu'r felin yn nheulu Thomas Jones hyd nes i storm fawr chwalu'r cap ym 1918.[1]

Adeiladwaith[golygu | golygu cod]

Mae peirianwaith y felin tu fewn i dŵr carreg sydd 9.3m (30tr 6mod) o uchder. Mae'r tŵr yn lletach tua'r gwaelod gyda'r llawr isaf yn 6m (19tr 6mod) o ddiamedr tra bod y cwch sydd ar ben y tŵr yn 5.2m (17tr) o ddiamedr. Mae siafft haearn yn rhedeg trwy'r cwch gyda croes haearn yn cysylltu'r siafft â'r hwyliau sydd 21m (69tr 6 mod) o hyd. Mae modd troi'r cwch gyda chadwyn hir er mwyn galluogi'r hwyliau i wynebu'r gwynt.[1]

Mae pedwar llawr i'r felin, y llawr uchaf o dan y cap yw'r Llawr llwch sydd yn amddiffyn y felin rhag glaw. Yr ail lawr yw Llawr y bin ŷd lle mae'r ŷd yn cael ei gadw cyn ei falu. Llawr y garreg ydi'r llawr cyntaf ac yma mae'r melinfaen yn cael ei gadw. Y Llawr isaf ydi'r llawr lle mae'r blawd yn cyrraedd ar ôl cael ei falu gan y cerrig.[4]

Atgyweirio[golygu | golygu cod]

Ym 1954 collwyd y cwch mewn storm a disgynodd y felin yn adfail ond ym 1978 cafodd y felin ei phrynu gan Cyngor Sir Ynys Môn am £10,000. Ar ôl gwario £120,000 ar ei hatgyweirio cafodd y felin ei hail agor ym 1984.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Melin Llynnon Mill". Donald Perkins.
  2. "Croeso Môn: Melin Llynnon". Croeso Môn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-21. Cyrchwyd 2017-12-28.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Melin Llynnon". anglesey-history.co.uk.
  4. "The Windmill: how the mill works". Brixton Windmill.