Afon Alaw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am yr afon yw hon. Am y llong o'r un enw, gweler Afon Alaw (llong).

Mae Afon Alaw yn un o'r afonydd pwysicaf ar Ynys Môn. Gorwedd yng ngogledd yr ynys. Ei hyd yw tua 10 milltir (yn cynnwys ei chwrs trwy Llyn Alaw).

Afon Alaw yn cyrraedd y môr ger Llanfachraeth

Mae'r afon yn tarddu gerllaw Llanerchymedd yng nghanol yr ynys ac yn llifo i mewn i Lyn Alaw, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Mae nifer o nentydd eraill hefyd yn llifo i mewn i'r llyn.

Ar ôl gadael y llyn mae'r afon yn llifo heibio Llanbabo a Llanfachreth, ac mae afon arall, a elwir Afon Alaw Fach, yn ymuno â hi. Mae'n cyrraedd y môr ym Mhenrhos, i'r dwyrain o Gaergybi.

Ceir sôn am Afon Alaw yn Brawnwen ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi, lle'r adroddir yr hanes am Branwen yn marw o dorcalon am fod cymaint o ryfelwyr dewr o Ynys y Cedyrn (Ynys Prydain) ac Iwerddon wedi marw o'i hachos hi, a'i chladdu wedyn mewn bedd ar lan Afon Alaw:

Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.

Mae claddfa ar lan yr afon gerllaw Llanbabo yn dwyn yr enw Bedd Branwen - credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.

Enwyd y llong hwylio Afon Alaw, chwaer-long yr Afon Cefni, ar ôl yr afon.