Llanfihangel-yn-Nhywyn
Pentref bychan a phlwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llanfihangel-yn-Nhywyn. Fe'i lleolir fymryn i'r de o'r briffordd A5 yng ngogledd-orllewin yr ynys, tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o dref Caergybi. Mae'n rhan o gymuned Llanfair-yn-Neubwll.
Yn yr Oesoedd Canol roedd eglwys Llanfihangel-yn-Nhywyn yn un o gapeli eglwys Gwenfaen (Rhoscolyn). Mae'n un o sawl eglwys yng Nghymru a enwir ar ôl Sant Mihangel.
Ceir pedwar llyn bychan ger y pentref, sef Llyn Traffwll, Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg a Llyn Dinam, sy'n ffurfio gwarchodfa natur Gwlyptiroedd y Fali. Llyn Traffwll yw'r un agosaf i'r pentref gyda'r lan orllewinol yn dod o fewn canllath iddo.
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele