Rhosybol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhosybol

Pentref bychan a chymuned ar Ynys Môn yw Rhosybol (neu Rhos-y-bol). Saif yng ngogledd yr ynys ar y B5111, hanner ffordd rhwng Amlwch i'r gogledd a Llannerch-y-medd i'r de.

Pentref estynedig sy'n gorwedd o neilldu'r lôn ydyw. Yr ystyr gyffredin sydd i'r gair bol yn yr enw, cyfeiriad naill ai at bant yn y tir neu chwydd arno. Mae'r pentref yn gorwedd ym mhlwyf Amlwch. Tri chwarter milltir i'r gorllewin ceir pen dwyreiniol Llyn Alaw, ond does dim mynediad hawdd iddo o Rosybol.

Milltir a hanner i'r gogledd o Rosybol ceir Mynydd Parys sy'n enwog am ei hen gloddfeydd copr.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhosybol (pob oed) (1,078)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosybol) (642)
  
61.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosybol) (664)
  
61.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhosybol) (168)
  
37.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.