Llanbabo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llanbabo yn bentref bychan 4 milltir i'r de o Fae Cemaes ar ymyl Cors y Bol ger Llyn Alaw, yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu'n gryf fod Sefnyn, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif, yn frodor o blwyf Llanbabo.

Eglwys Pabo Sant[golygu]

Eglwys Pabo Sant

Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Pabo (5ed ganrif). Eglwys un siambr ydyw, a godwyd yn y 12fed ganrif yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd ond a newidiwyd yn sylweddol yn y 19eg ganrif. Ynddi ceir maen cerfiedig ac arni delwedd bas-relief o'r sant, oedd yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn gwisgo coron ac yn dwyn teyrnwialen. Mae'r maen yn dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif. Tybir i gerflun arall ar yr ynys, yn Eglwys Sant Iestyn, yn Llaniestyn, gael ei gerfio gan yr un crefftwr.

Hefyd o ddiddordeb arbennig yw'r tri phen cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gosod yn y bwa uwchben porth yr eglwys; tybir eu bod yn cynrychioli'r Drindod (ceir pennau cyffelyb ym Mhriordy Penmon ac yn eglwys Llan-faes).

Mae muriau'r llan o gwmpas yr eglwys ar ffurf crwn, arwydd o hynafrwydd y safle.

Hynafiaethau eraill[golygu]

Filltir i'r de o'r pentref ceir maen hir ac yn agos i hwnnw mae safle Bedd Branwen ar lan Afon Alaw.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Gweler t. 76 am luniau o bennau'r bwa, a t. 216 a lun o'r maen cerfiedig.