Heneglwys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref neu amlwd bychan a phlwyf ar Ynys Môn yw Heneglwys (cyfeiriad grid SH424762). Fe'i lleolir milltir i'r de o bentref Bodffordd tua hanner ffordd rhwng Gwalchmai i'r gorllewin a Llangefni i'r dwyrain.

Eglwys St Llwydian, Heneglwys

Mae'r eglwys yn sefydliad hynafol. Enw arall arni gynt oedd Llan y Saint Llwydion ('llwyd' yn yr ystyr 'sanctaidd'). Ymddengys mai Gwyddel o'r enw Corbre a sefydlodd yr eglwys, yn y 6ed ganrif efallai; ceir llecyn gerllaw a elwir 'Mynwent Corbre'. Ceir sawl cyfeiriad at y fynwent honno yn y canu brud (daroganau ar gân) canoloesol.

Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin ceir englyn sy'n cyfeirio at fedd rhyfelwr o'r enw Ceri Cleddyfhir ym Mynwent Corbre yn Heneglwys:

Bedd Ceri Cleddyfhir yng ngodir Heneglwys,
Yn y diffwys graeandde,
Tarw torment, ym mynwent Corbre.
(Llyfr Du Caerfyrddin, orgraff ddiweddar)

Roedd Heneglwys yn dref yn yr Oesoedd Canol, yng nghwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.

Yn Heneglwys y ganed William Glynn (1504 - 1558), Esgob Bangor o 1555 hyd 1558.

Cyfeiriadau[golygu]

  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982). 18.14-16.
  • Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972). Tud. 157.