Englyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr casgliad o englynion gan Wasg y Lolfa.

Math arbennig o bennill sy'n unigryw i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yw'r englyn. Mae ei wreiddiau'n hen gyda'r enghreifftiau ysgrifenedig cynharaf yn dyddio o tua'r 9fed ganrif. Ar lafar, mae englyn yn tueddu i fod yn gyfystyr ag englyn unodl union, ond mae sawl math arall. Nid englynion unodl union mo'r enghreifftiau cynharaf, ond yn hytrach englynion milwr ac englynion penfyr, sef Canu Llywarch Hen a'r enghreifftiau yn Llawysgrif Juvencus.

O ail-drefnu rhai o linellau'r Gododdin a briodolir i Aneirin, gellir ffurfio englyn unodl union. Ceisiodd yr ysgolhaig John Rhŷs brofi mai o'r Lladin y daeth mesur yr englyn, felly mae'n fesur hen iawn.

Erbyn hyn, gall englyn sefyll ar ben ei hun fel cyfanwaith. Tueddai Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr ganu gosteg, cadwyn neu gyfres o englynion yn hytrach nag englyn unigol, ond ceir eithriadau, fel englyn Guto'r Glyn i'w henaint. Canodd Cynddelw Brydydd Mawr dri englyn unodl union coffa i'w fab, Dygynnelw, yn ogystal.

Yr oedd englynion yn rhannau pwysig o gyfarwyddyd, a thybir mai gweddillion cyfarwyddyd yw'r englynion a briodolir i Lywarch Hen a Heledd. Mae Efnisien yn canu englyn yn Ail Gainc y Mabinogi.

Mathau o englynion[golygu]

Gosteg Englynion yw cyfres o ddeuddeg o Englynion Unodl Union ar yr un brifodl.

Techneg arall a ddefnyddir yw cadwyno englynion mewn cyfres drwy ddwyn gair o linell olaf yr englyn blaenorol a'i osod yn llinell gyntaf yr englyn newydd. Bydd rhai beirdd yn cloi'r gadwyn drwy gysylltu llinell olaf yr englyn olaf â llinell gyntaf yr englyn cyntaf. Enghraifft enwog o'r dechneg hon yw'r gadwyn o ddeuddeg englyn sy'n agor awdl John Lloyd-Jones, Y Gaeaf, sef awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1922.

Gweler hefyd[golygu]

Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.