Llanfaethlu
Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfaethlu. Saif ar y briffordd A5025 rhwng Y Fali a Cemaes. Daw enw'r pentref o enw sant Maethlu, a elwir hefyd yn Maethlu y Cyffeswr.
Nid yw'r pentref ei hun ar lan y môr, ond mae traeth Porth Swtan gerllaw, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin. Mae bwthyn yma o'r enw Swtan sy'n awr yn amgueddfa werin; dywedir mai hwn yw'r bwthyn to gwellt olaf ar yr ynys. Mae plasty Garreglwyd gerllaw yn dyddio o'r 17eg ganrif.
Ymhlith enwogion y pentref mae Siôn Dafydd Rhys, ysgolhaig a meddyg o'r 16eg ganrif oedd a rhan bwysig yn y Dadeni Dysg yng Nghymru.
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele