Llanddaniel Fab

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llanddaniel Fab (gynt Llanddeiniol Fab) yn bentref bychan a chymuned yn ne-orllewin Ynys Môn, ar ffordd gefn rhwng Y Gaerwen ar ffordd yr A5 a Llanedwen ar yr A4080. Mae'n rhan o ward Llanidan.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Deiniol Fab (hefyd "Deiniolen").

Mae claddfa gynhanesyddol enwog Bryn Celli Ddu ychydig i'r de o'r pentref.

[golygu] Dolen allanol

  • [1] Safle we'r pentref


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Ieithoedd eraill