Gaerwen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Gaerwen)
Neidio i: llywio, chwilio
Hen felin wynt, Gaerwen

Pentref gweddol fawr yn ne-orllewin Ynys Môn yw'r Gaerwen. Saif ar ffordd yr A5 rhyw bedair milltir i'r gorllewin o bentref Llanfairpwllgwyngyll ac i'r dwyrain o Bentre Berw. Hyd yn ddiweddar roedd yr holl drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond ar ôl i ffordd newydd yr A55, sy'n osgoi'r p[entref, gael ei hagor mae pethau'n ddistawach.

Mae Stâd Ddiwydiannol y Gaerwen ar ochr orllewinol y pentref, ac mae dwy hen felin wynt i'r gogledd. Ar un adeg roedd Rheilffordd Canol Môn yn gadael y prif reilffordd i Gaergybi yng ngorsaf Gaerwen ac yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Amlwch.


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato