Llanidan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Ynys Môn yw Llanidan, sy'n cynnwys pentref Brynsiencyn.

Saif eglwys y plwyf gerllaw y briffordd A4080 ychydig i'r dwyrain o Frynsiencyn. Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Menai, cantref Rhosyr. Ni nepell o Lanidan ceir Moel-y-don, safle hen fferi ar lan Afon Menai.

Ymhlith yr enwogion fu'n gysylltiedig a'r plwyf mae Henry Rowlands, oedd yn rheithor Llanidan pan gyhoeddodd ei lyfr Mona Antiqua Restaurata (1723), a'r diwydiannwr Thomas Williams, Llanidan, oedd yn byw ym Mhlas Llanidan.

Ceir plasdy Myfyrian, aelwyd teulu Rhydderch yn yr 16eg ganrif, yn Llanidan. Bu'n gylchfan beirdd o Ynys Môn a thu hwnt; mae'n ffermdy erbyn heddiw.

CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato