Maethlu

Oddi ar Wicipedia
Maethlu
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl26 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadCaradog Freichfras Edit this on Wikidata
MamTegau Eurfron Edit this on Wikidata

Sant Cymreig cynnar oedd Maethlu (bl. 6g). Mae'n nawddsant plwyf Llanfaethlu ym Môn. Cyfeirir ato hefyd fel "Maethlu Gyffeswr". Ei wylmabsant yw 26 Rhagfyr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Achau

Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl y testun achyddol Bonedd y Saint, roedd yn un o feibion Caradog Freichfras, un o arwyr Cylch Arthur, a'i wraig Tegau Eurfron. Roedd ei frodyr yn cynnwys Cadfarch, Tangwn a Chawrdaf; dywedir i Gawrdaf sefydlu teyrnas yn ardal Rhwng Gwy a Hafren yn y 6g.[1]

Eglwysi

Sefydlodd Maethlu eglwys Llanfaethlu ar Ynys Môn; mae'n nawddsant yr eglwys honno. Dywedir hefyd iddo sefydlu eglwys Llandyfalle ym Mrycheiniog.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peter C. Bartrum, A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993).
  2. T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).