Maenor

Oddi ar Wicipedia

Prif lys cantref neu gwmwd a'i ganolfan weinyddol yn Nghymru'r Oesoedd Canol oedd y maenor (amrywiad : maenol). Yn ddiweddarach cafwyd yr enw maen(or)dy am blas gwledig (Saesneg : manor-house), ond ystyr y gair maenor yn yr Oesoedd Canol oedd y llys lleol a'r adeiladau a'r tir o'i gwmpas.

Mae'r gair maenor yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd led-led Cymru, e.e. Maenorbŷr yn Sir Benfro, lle ganwyd Gerallt Gymro.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.