Rhodogeidio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Rhodogeidio. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys i'r gogledd o'r Fali.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw. Ystyr yr enw yw 'Amddiffynfa Ceidio' (rhodwydd 'amddiffynfa', cf. castell Tomen y Rhodwydd) a Rhodwydd Geidio yw'r enw llawn a geir mewn rhai dogfennau.[1] Sant lleol oedd Ceidio, sef Ceidio ap Caw (6ed ganrif); ni wyddys rhagor na hynny amdano.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato