Hugh Owen (addysgwr)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Addysgwr o Gymru a gafodd ddylanwad mawr ar ddatblygiad y system addysg yng Nghymru oedd Syr Hugh Owen (14 Ionawr 180420 Tachwedd 1881). Roedd yn frodor o Langeinwen, Ynys Môn.

Ei fywyd[golygu]

Dyngarwr Methodistaidd oedd ef. Roedd yn un o hybwyr cyntaf Coleg y Normal, Bangor rhwng 1955 ac 1858 a llwyddodd gyda chriw bychan sefydlu Choleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872. Cymerodd ran amlwg yng ngwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd. Ond ei brif waith oedd sefydlu ysgolion canolraddol yng Nghymru. Claddwyd ef ym Mynwent Abney Park yn Stoke Newington, Llundain. Cafodd ei urddo'n farchod yn Awst 1881.

Beirniadaeth[golygu]

Mae gwaith Hugh Owen fel addysgwr wedi cael ei feirniadu'n hallt gan rai haneswyr modern. Ar sawl ystyr, roedd yn ŵr nodweddiadol o'r dosbarth canol Seisnig Fictoraidd yng Nghymru. Fe'i beirniadir am ei fethiant i greu cyfundrefn addysg a fyddai'n fwy addas i Gymru fel gwlad ac am esgeuluso i raddau helaeth le'r iaith Gymraeg yn y gyfundrefn honno. Er ei fod yn Gymro Cymraeg, peth eilradd yn ei flaenoriaethau fu'r iaith yn ei gynlluniau addysg a bu rhaid aros am flynyddoedd i wneud yn iawn am hynny. Erbyn i hynny ddigwydd ac i'r iaith ddechrau ennill ei lle yn ysgolion Cymru roedd nifer ei siaradwyr wedi gostwng yn sylweddol a beirniadir Owen am fod yn rhannol gyfrifol am hynny trwy greu system addysg a Seisnigeiddiodd genhedlaethau o Gymry ifainc.

Y cof amdano[golygu]

Enwyd llyfrgell Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Syr Hugh Owen ar ei ôl.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • W. E. Davies, Cofiant Syr Hugh Owen (1885)
  • B. L. Davies, Syr Hugh Owen (Caerdydd, 1977)


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.