Llanfair Pwllgwyngyll

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llanfairpwllgwyngyll)
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°13′N 4°12′W / 53.22°N 4.20°W / 53.22; -4.20

Llanfair Pwllgwyngyll
Llanfair Pwllgwyngyll is located in Ynys Môn
Llanfair Pwllgwyngyll

 Llanfair Pwllgwyngyll yn: Ynys Môn
Poblogaeth 3,040 (Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001)
Prif ardal Ynys Môn
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANFAIRPWLLGWYNGYLL
Rhanbarth cod post LL61
Cod deialu 01248
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ynys Môn
Cynulliad Cymru Ynys Môn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn

Pentref a chymuned ar Ynys Môn yw Llanfair Pwllgwyngyll (neu Llanfairpwllgwyngyll; Llanfairpwll ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy.

Cynnwys

Yr enw [golygu]

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref. Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846-1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll). Cyfeiria 'Llantysilio' at blwyf eglwysig Llandysilio.

Hanes [golygu]

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf (Llanfair) Pwllgwyngyll yn rhan o gwmwd Dindaethwy, yng nghantref Menai.

Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad y Women's Institute yn 1915.

Y pentref [golygu]

Twristiaid tu allan i'r orsaf yn Llanfairpwll

Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.

Dadl iaith [golygu]

Yn 2011, roedd Llanfairpwll yn ganolbwynt dadl yngylch yr hawl i siarad Cymraeg ar ôl i berchennog bwyty Carreg Môn yn y pentref wahardd ei staff rhag siarad Cymraeg tra'n gweithio yno, gan ddweud mai dim ond Saesneg y dylent siarad.[1][2]

Gweler hefyd [golygu]

Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw
Magnify-clip.png
Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw

Cyfeirnodau [golygu]