Sefydliad y Merched
Oddi ar Wicipedia
Aelodau Sefydliad y Merched, Meifod, yn gwneud jam, 1941.
Ffurfiwyd Sefydliad y Merched (Saesneg: Women's Institute) gyntaf yng Ngwledydd Prydain yn 1915, a hynny yn Llanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn. Yn nhai'r aelodau y cynhaliwyd y cyfarfodydd ar y cychwyn. Dilynwyd y gangen gyntaf gyda changhennau yn Nghefn, Trefnant, Chwilog, Glasfryn, Llanystumdwy a Chricieth.
Yn 1967 ffurfiwyd Merched y Wawr gan Zonia Bowen a chriw y W.I. o'r Parc, y Bala, gan gynnig arlwy debyg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
Yn 2006 roedd gan y W.I. dros 500 o ganghennau yng Nghymru; 16,000 o aelodau.