Siambr gladdu
Oddi ar Wicipedia
Siambr gladdu hir Wayland's Smithy, Ashbury, Swydd Rydychen.
Siambr gladdu Capel Garmon, sir Conwy lle gwelir fod y pridd wedi ei symud i ddangos fod y math hwn o gladdfa o dan y ddaear.
Siambr, neu ogof wneud, lle rhoddir corff dynol marw i'w orffwys ydy siambr gladdu a honno wedi'i gorchuddio gyda phridd. Fel arfer cysylltir y gair gyda defodau claddu Oes Newydd y Cerrig, Oes yr Efydd a chyn hynny. Arferid gosod strwythur o gerrig enfawr yn gyntaf i ddal y bryncyn a roddid ar ei ben ac weithiau gellir gweld y cromlechi (neu garnedd pan fo'r pridd a oedd unwaith yn eu gorchuddio wedi erydu gan y gwynt a'r glaw.
Mae cromlechi a charneddi, felly, yn gerrig noeth a siambr gladdu yn domen o bridd ar ffurf bryncyn bychan.
Cynnwys |
Mathau gwahanol o siambrau claddu [golygu]
- Beddrod Hafren-Cotswold
- Siambr Gladdu Hir
- Beddrod siambr
- Crug crwn (term Saesneg Cadw ydy Round Barrow[1])
Rhai siambrau claddu [golygu]
Cymru [golygu]
Gweler hefyd: Rhestr o Siambrau Claddu yng Nghymru
- Bryn Celli Ddu, Môn
- Barclodiad y Gawres, Môn
- Siambr gladdu Capel Garmon, Sir Conwy
- Penycloddiau, Sir Ddinbych
- Carnedd y Gop ger Trelawnyd, Sir y Fflint. Diametr: 100m[2]
Yr Alban [golygu]
Lloegr [golygu]
Eraill [golygu]
- Magdalenenberg, yr Almaen