Skara Brae
Oddi ar Wicipedia
Gweddillion pentref Neolithig ar Ynysoedd Erch yn yr Alban yw Skara Brae. Saif ar arfordir gorllewinol ynys Mainland.
Credir fod y pentref yn cael ei ddefnyddio yn y cyfnod 3100-2500 CC. Yn ddiweddarach, gorchuddiwyd adfeilion y tai gan dywod, ac ni chafwyd hyd iddynt eto hyd y 1850au. Bu cloddio archaeolegol yma dan Gordon Childe rhwng 1928 a 1930. Gan nad oedd fawr o goed ar Ynysoedd Erch, adeiladwyd popeth o gerrig, yn cynnwys y dodrefn.
Gyda Maes Howe, Meini Stenness a Cylch Brodgar, mae Skara Brae yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.