Mainland (Ynysoedd Erch)
Oddi ar Wicipedia
Mainland yw'r enw ar brif ynys Ynysoedd Erch (Orkney) yng ngogledd-ddwyrain yr Alban. Mae'r boblogaeth tua 15,000, am yma y ceir dwy dref fwyaf Ynysoedd Erch, Kirkwall a Stromness. Yma hefyd y mae Eglwys Gadeiriol Sant Magnus, canolfan grefyddol yr ynysoedd.
Ceir nifer o hynafiaethau Neolithig pwysig ar yr ynys, yn arbennig Cylch Brodgar, cylch cerrig 104 m ar draws, siambr gladdu Maes Howe, a phentref Skara Brae. Dynodwyd y casgliad yma o hynafiaethau yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. I'r de o'r ynys mae bae Scapa Flow.
Pentrefi [golygu]
- Birsay
- Finstown
- Harray
- Orphir
- Sandwick
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol Sant Magnws (Kirkwall)
- Maes Howe
- Neuadd Clestrain
- Palas yr Iarll (Birsay)
- Palas yr Iarll (Kirkwall)
- Skara Brae
Enwogion [golygu]
- John Rae (1813-1893), fforiwr
- George Mackay Brown (1921-1996), bardd