Barclodiad y Gawres

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°12′25″N 4°30′13″W / 53.20703°N 4.50352°W / 53.20703; -4.50352

Barclodiad y Gawres.
Golygfa tu mewn.
Am y garnedd gron yng Nghaerhun, gweler Barclodiad y Gawres, Caerhun.

Siambr gladdu Neolithig yw Barclodiad y Gawres. Fe'i lleolir ar benrhyn bychan rhwng Porth Trecastell a Phorth Nobla ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, ychydig i'r de o bentref Rhosneigr. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio iddi.

Barclodiad y Gawres yw'r siambr gladdu fwyaf yng Nghymru. Mae'n esiampl o'r beddau cyntedd ar ffurf groes, ar yr un cynllun a nifer o siambrau claddu yn Iwerddon megis Newgrange. Nodwedd ddiddorol arall yw bod nifer o'r meini Neolithig wedi eu haddurno â llinellau igam-ogam. Ychydig iawn o gerrig wedi'u cerfio fel hyn sydd ar gael yng Nghymru: Bryn Celli Ddu, Llanfechell, Cae Dyni yn Llŷn a Garn Wen a Garn Turne ym Mhenfro.[1]

Bu cloddio archeolegol yma yn 1952-3. Un darganfyddiad oedd bod olion sy'n dangos i dân gael ei gynnau yn y rhan ganol, a chawl wedi ei wneud o amrywiaeth ryfedd o anifeiliaid a physgod wedi ei dywallt trosto. Ymddengys fod hyn yn rhan o ryw ddefod.

Mae'r siambr wreiddiol wedi ei hamgylchynu gan domen goncrit er mwyn ei gwarchod. Mae dan ofal Cadw ond er mwyn ymweld â thu yn y domen rhaid cael agoriad.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Faner Newydd, Rhif 47, Gwanwyn 2009

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1

Cysylltiadau allanol[golygu]


Bodowyr Siamberi Claddu ar Ynys Môn Sbiral triphlyg

Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd