Kyffin Williams
Arlunydd Cymreig oedd Syr John Kyffin Williams (9 Mai 1918 – 1 Medi 2006).
Bywgraffiad [golygu]
Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn. Methodd archwiliad meddygol i ymuno â'r Fyddin Brydeinig ym 1941 oherwydd ei gyflwr epilepsi, ac felly dywedodd ei feddyg iddo i gymeryd lan celf. Cyn ei farwolaeth roedd nifer yn ei ystyried yn beintiwr olew Cymreig mwyaf ei oes. Ei hoff themâu oedd tirwedd a phobl ei ardal enedigol, ond ym 1968 fe aeth i Batagonia i gofnodi'r Wladfa Gymreig yn ei gelf. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1976 ac fe'i urddwyd yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2000. Yn ei flynyddoedd olaf trigai Kyffin Williams ym Mhwllfanogl, Ynys Môn, lle y bu iddo farw o gancr yn 2006. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-yng-Nghornwy.