Ronald Stuart Thomas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth R. S. Thomas)
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd enwog o Gymru oedd Ronald Stuart Thomas neu R. S. Thomas (29 Mawrth, 1913 - 25 Medi, 2000). Ysgrifennai ei farddoniaeth yn Saesneg ond cyhoeddodd yn ogystal ddarlithiau a chyfrolau rhyddiaith yn Gymraeg. Offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru oedd e wrth ei alwedigaeth. Dysgodd Gymraeg ac yr oedd yn genedlaetholwr digymrodedd.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd. Ei wraig oedd Mildred Eldridge, arlunydd o Saesnes.

Treuliodd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor plwyf gwledig Manafon, Powys (1942-1954) a ficer plwyf Eglwys Fach, Ceredigion am dair mlynedd ar ddeg (1954-1967). O Eglwys Fach aeth i weinyddu fel ficer Aberdaron yn Llŷn. Ar ei ymddeoliad o'r eglwys yn 1978, aeth i fyw ym mhentref Y Rhiw wrth droed Mynydd Rhiw, hefyd yn Llŷn. Ennillodd yr Horst-Bienek-Preis für Lyrik ym 1996.

Yn ôl Dafydd Ellis-Thomas, mae'i gyfrol Uncollected Poems (2013; www.bloodaxebooks.com) yn "dangos bod RS wedi creu campweithiau'r 20fed ganrif mewn sawl math o gerddi: cerddi am natur y greadigaeth a chân yr adar, canu tanbaid serch a chariad, y canu mwyaf deallus am Gymru fel cenedl..."[1]

Cynnwys

Llyfryddiaeth [golygu]

  • The Stones of the Field (1946)
  • An Acre of Land (1952)
  • Song at the Year's Turning (1955)
  • Poetry for Supper (1958)
  • Tares (1961)
  • The Bread of Truth (1963)
  • Pietà (1966)
  • Not That He Brought Flowers (1968)
  • H'm (1972)
  • Laboratories of the Spirit (1975)
  • Abercuawg (1976) darlith (gweler Abercuawg)
  • The Way of It (1977)
  • Hunanladdiad y Llenor (1977) darlith
  • Frequencies (1978)
  • Between Here and Now (1981)
  • Ingrowing Thoughts (1985)
  • Neb (1985) hunangofiant
  • Experimenting with an Amen (1986)
  • Welsh Airs (1987)
  • The Echoes Return Slow (1988)
  • Counterpoint (1990)
  • Blwyddyn yn Llŷn (1990)
  • Pe Medrwn Yr Iaith: ac ysgrifau eraill gol. Tony Brown & Bedwyr L. Jones, (1990)
  • Mass for Hard Times (1992)
  • No Truce with the Furies (1995)
  • Autobiographies (1997)
  • Residues (2002)

Cyfeiriadau [golygu]

  1. [Golwg; 11 Ebrill, 2013; tudalen 19.

Dolenni Allanol [golygu]

Llyfrau eraill [golygu]

  • R.S. Thomas: Deciduous Language / Laubbaum Sprache. Gedichte. Hg. und übersetzt von Kevin Perryman. Babel Verlag, Denklingen 1998. 88 S., 42 Mark. Dewis o'i farddoniaeth wedi ei chyfiethu i'r Almaeneg.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.