Ynysoedd y Moelrhoniaid
Oddi ar Wicipedia
Grŵp o ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-orllewin Ynys Môn yw Ynysoedd y Moelrhoniaid. Saif goleudy awtomatig yno.
Mae'r ynysoedd yn bwysig fel man nythu Morwennol y Gogledd, gyda dros 2,000 o barau yn nythu yno yn 2006. Oherwydd pwysigrwydd y safle mae wardeiniaid yr RSPB yn aros yno dros yr haf i'w gwarchod.