Pabi coch
Oddi ar Wicipedia
| Pabi Coch | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Urdd: | Ranunculales |
| Teulu: | Papaveraceae |
| Genws: | Papaver |
| Rhywogaeth: | P. rhoeas |
| Enw deuenwol | |
| Papaver rhoeas L. |
|
Pabi gwyllt â blodau coch llachar yw'r Pabi Coch (Lladin: Papaver rhoeas). Fe'i cysylltir ag amaeth ers sawl mileniwm, ac mae'n chwynnyn nodweddiadol mewn caeau ŷd. Mae'n unflwydd, gyda'r blodau'n ymddangos yn hwyr yn y gwanwyn fel arfer.
Tyf un blodyn ar bob corsen fain, flewog. Mae pedwar petal ganddo, gyda smotyn du tua gwaelod pob un fel arfer.
Yn ogystal â bod yn chwynnyn cyffredin, fe'i dyfir yn fwriadol am ei hadau, a defnyddir wrth pobi ac i ychwanegu blas. Mae'r blodau yn fwytadwy yn ogystal, a gellid eu defnyddio mewn salad neu i wneud surop neu ddiodydd.
Fe cysylltir pabïau cochion â choffadwriaeth rhyfelau ers adeg y Rhyfel Byd Cyntaf am iddynt dyfu ar gaeau Fflandrys, ac fe'u gwisigir yng ngwledydd y Gymanwlad ar Ddydd y Cofio.
Gweler hefyd [golygu]
Oriel [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: