Popi Cymreig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pabi Cymreig)
Popi Cymreig / Pabi Cymreig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Ranunculales
Teulu: Papaveraceae
Genws: Meconopsis
Rhywogaeth: M. cambrica
Enw deuenwol
Meconopsis cambrica
(L.) Vig.
Cyfystyron

Papaver cambricum L.

Planhigyn blodeuol lluosflwydd sy'n perthyn i deulu'r pabi (Papaveraceae) yw'r Popi Cymreig neu Meconopsis cambrica (hefyd: Pabi Cymreig, Pabi Cymru). Ers 2006, mae darlun o'r blodyn wedi ymddangos ar logo Plaid Cymru.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae gan Meconopsis cambrica ddail asgellog. Gall y planhigyn dyfu hyd at 30–60 cm (12-24 modfedd) o daldra. Mae'n blodeuo rhwng misoedd Mehefin ac Awst. Mae gan y blodau bedair petal lliw melyn neu oren sy'n mesur 50–88 mm ar eu hyd. Ar ddiwedd yr haf, gwasgarir llawer o hadau duon o gibyn hir.[1]

Mae'r planhigyn yn gynhenid i orllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru, de-orllewin Lloegr, Iwerddon, Penrhyn Iberia, y Pyreneau a'r Massif central. Fodd bynnag, gellir dod o hyd iddo ymhell tu hwnt i'w gynefin naturiol erbyn hyn [2]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Ceir hyd i M. cambrica fel arfer mewn lleoliadau llaith a chysgodol ar dir creigiog, ond ar ymyl orllewinol ei ddosbarthiad, fe'i gwelir ar diroedd mwy agored hefyd.[1] Mae'n blanhigyn sydd wedi addasu'n dda i fyw mewn bylchau a holltau mewn creigiau. Golyga hyn ei fod hefyd yn aml i'w weld yn tyfu rhwng cerrig palmant ac mewn cynefinoedd trefol tebyg.

Tacsonomeg[golygu | golygu cod]

Fe roddwyd yr enw gwyddonol gweiddiol, Papaver cambricum, i'r planhigyn gan Carolus Linnaeus yn ei lyfr Species Plantarum yn 1753.[3] Yn 1814, gwahanodd y botanegydd Louis Viguier y planhigyn o Papaver a'i roi mewn genws newydd o'r enw Meconopsis ohewydd fod gan M. cambrica stigmâu gwahanol i weddill aelodau Papaver.

Bellach, mae nifer o aelodau eraill yn y genws Meconopsis, megis y pabi glas. Mae'r rhain i gyd yn gynhenid i fynyddoedd yr Himalaya. Fodd bynnag, mae ymchwil foleciwlaidd mwy diweddar wedi dangos nad ydi M. cambrica yn perthyn i weddill y genws, gan awgrymu fod dosbarthiad gwreiddiol Linnaeus yn gywir wedi'r cyfan.[4] Mae cofnod y rhywogaeth ar y gronfa ddata The Plant List Archifwyd 2018-11-22 yn y Peiriant Wayback. wedi ei newid i ddangos hyn.

Y Popi Cymreig (M. cambrica)
Hadau a chibynnau M. cambrica.
Hadau M. cambrica.
Hadau M. cambrica
Logo Plaid Cymru.
Mabwysiadodd Plaid Cymru'r Popi Cymreig fel logo yn 2006.
Mabwysiadodd Plaid Cymru'r Popi Cymreig fel logo yn 2006. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Williams, Iolo (2012). Llyfr Natur Iolo. Llanrwst, Conwy: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1845271312
  2. Stace, Clive A. (2010). "Meconopsis Vig. - Welsh Poppy", New Flora of the British Isles. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, tud. 88-90. ISBN 978-0-521-70772-5
  3. Prain, David (1906). A review of the genera Meconopsis and Cathcartia, Annals of Botany, old series, Cyfrol 20, Rhifyn 4 (yn Saesneg), tud. 323–370. DOI:10.1093/oxfordjournals.aob.a089107URL
  4. Kadereit, Joachim W.; Preston, Chris D; a Valtueña, Francisco J. (2011). Is Welsh Poppy, Meconopsis cambrica (L.) Vig. (Papaveraceae), truly a Meconopsis?, New Journal of Botany, Cyfrol 1, Rhifyn 2 (yn Saesneg), tud. 80-87. DOI:10.1179/204234811X13194453002742