Santes Dwynwen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dwynwen)
Neidio i: llywio, chwilio
Calon, symbol Cariad

Nawddsantes cariadon Cymru yw Dwynwen a oedd yn un o ferched Brychan. Dethlir diwrnod Santes Dwynwen ar 25 Ionawr trwy i gariadon anfon cardiau i'w gilydd.

Cysylltir Dwynwen ag Ynys Môn a rhoddodd ei henw i eglwys ar Ynys Llanddwyn (ger Rhosyr, Niwbwrch) ac ym mhlwyf Porthddwyn ei hun. Ceir eglwysi cysegredig iddi ym Morgannwg yn ogystal.

Yn ôl y chwedl, roedd Dwynwen mewn cariad â Maelon ond roedd ei thad am iddi briodi tywysog arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon hi. Gweddïodd Dwynwen ar i Dduw ei ryddhau o'i chariad at Maelon Dafodrillac fe roddwyd tri dymuniad iddi. Yn gyntaf gofynnodd am i Maelon gael ei ddadmer, gan ei fod ynghynt wedi ei rewi gan angel. Yn ail gofynnodd i Dduw ateb gweddiau y gwir gariadon a oedd yn gofyn iddi am atebion ac yn drydydd gofynnodd am beidio a phriodi byth. Ar ôl i'w dymuniadau cael eu gwireddu, penderfynnodd Dwynwen wasanaethu ac ymdynghedu i Dduw weddill ei hoes. Fe aeth Santes Dwynwen i fyw ar Ynys Llanddwyn ger traeth Niwbwch tan ei marwolaeth yn 460 OC.

Yn ôl y tair gweddi Ladin a ychwanegwyd at Lyfr Offeren Bangor yn 1494, cerddodd Dwynwen yr holl ffordd dros fôr Iwerydd rhag llid Maelgwn Gwynedd. Yn llawysgrifau iolo Morgannwg ceir fersiwn wahanol, sef y fersiwn uchod.

Ym marddoniaeth Dafydd Trefor (c.1460 - 1528) disgrifir cleifion yn cael eu hiachau gerllaw ei ffynnon a'i chapel.

Gweler hefyd [golygu]