Plas Penmynydd

Oddi ar Wicipedia
Plas Penmynydd
Mathffermdy Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-RandomWilliams1908-Plas Penmynydd (Q17742498).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenmynydd Edit this on Wikidata
SirPenmynydd a Star Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr35.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2524°N 4.25595°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Yn 1576 y codwyd Plas Penmynydd a hynny gan deulu'r Tuduriaid ym Mhenmynydd, Ynys Môn ar safle plasdy cynharach, tua dwy filltir o Lanfair Pwllgwyngyll. Yma y ganwyd Owain Tudur, priod Catrin o Valois. Mae'r plasty, bellach, mewn dwylo preifat.

Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:

Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
Yno mae, heb gae ar ged,
Ail drigiant aelwyd Rheged.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52