Siasbar Tudur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Siaspar Tudur

Uchelwr Cymreig oedd Siasbar Tudur (tua 14311495); roedd yn Iarll Penfro a Dug Bedford ac yn ewythr i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Gyda'i frawd hŷn Edmwnd Tudur (tua 14301456), tad Harri Tudur, yr oedd Siasbar yn un o bum plentyn Owain Tudur ac yn ddisgynydd uniongyrchol i Ednyfed Fychan (m. 1246), distain (canghellor) pwerus Llywelyn Fawr. I bob pwrpas Siasbar oedd yn rheoli de-orllewin Cymru o'i gadarnle yng Nghastell Penfro. Bu gan Siasbar ran bwysig iawn yn Rhyfeloedd y Rhosynnau fel prif gynrychiolydd y Lancastriaid yng Nghymru ac yn ymgyrchoedd ei nai, a wnaed yn ward iddo, i ennill coron Lloegr.

Erbyn 1460 roedd Siasbar mewn sefyllfa mor gryf nid yn unig yn y de-orllewin ond mewn rhannau eraill o'r wlad trwy'r swyddi niferus yr oedd wedi ennill i'w hun fel ei fod bron iawn yn rheoli'r wlad.

Ar ôl i'r Iorciaid drechu'r Lancastriaid ym Mrwydr Croes Mortimer (1461), treuliodd 13 mlynedd gyda Harri mewn alltudiaeth yn Llydaw (14711484) cyn dychwelyd gyda fo a'i gynorthwyo ar ei orymdaith drwy Gymru i Faes Bosworth.

Siasbar a'r beirdd[golygu]

Fel y rhan fwyaf o uchelwyr eraill Cymru, noddai Siasbar y beirdd. Un o'r beirdd pwysicaf i ganu iddo oedd Lewys Glyn Cothi. Roedd Lewys yn Lancastriad brwd a gwladgarwr Cymreig pybyr. Dywed mewn un o'i lawysgrifau ei fod wedi mynd "ar herw er mwyn arglwydd Penfro," ar ôl i'r Iorciaid ennill brwydr Croes Mortimer.[1] Canodd awdl frud iddo a'i nai yn y gobaith y byddent yn dychwelyd yn fuan i adfer y Brythoniaid a gyrru'r Saeson yn ôl i'r môr:

a'r gwragedd Seisnig i'r dŵr meddal,
a'r Saesnes ormes i dref Gingsal,
a'r Saesneg wangreg i wâl - yr eigion,
a'r Saeson duon, ddimyn ys tâl.[2]

Canodd sawl bardd arall i Siasbar hefyd, yn cynnwys Dafydd Nanmor.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)
  • David Rees, The Son of Prophecy (argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), t. xxv.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), tud. 39.
Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
Creadigaeth newydd
Dug Bedford
14851495
Olynydd:
Diflanedig
Rhagflaenydd:
Creadigaeth newydd
Iarll Penfro
14521461
14851495
Olynydd:
Diflanedig