Elizabeth Woodville
Oddi ar Wicipedia
Brenhines Lloegr rhwng 1464 a 1483 oedd Elizabeth Woodville (neu Wydeville) (c.1437 - 8 Mehefin 1492).
Cafodd ei geni yn Grafton Regis, Swydd Northampton, yn ferch Richard Woodville, 1af Iarll Rivers a'i wraig, Jacquetta o Luxembourg.
Priododd Elizabeth Syr John Grey yn 1452. Bu farw Syr John ym 1461.
Priododd Edward IV, brenin Lloegr, yn dawel fach, ar 1 Mai 1464. Bu farw Edward ar 9 Ebrill 1483. Y Tywysog Edward, mab Elizabeth Woodville ac Edward IV, oedd brenin nesaf, ond Richard, brawd Edward IV, cymerodd y teyrngadair.
Bu farw Elizabeth yn yr Abaty Bermondsey.
Plant [golygu]
- Thomas Grey, Iarll Huntingdon (1457-1501)
- Richard Grey (1458-1483)
- Elizabeth o Efrog, brenhines Lloegr (1466-1503)
- Mari o Efrog (1467-1482)
- Cecily o Efrog (1469-1507)
- Edward V, brenin Lloegr (1470-?1483)
- Marged o Efrog (1472)
- Rhisiart, Dug Efrog (1473-?1483)
- Anne o Efrog (1475-1511)
- Siôr Plantagenet (1477–1479)
- Catrin o Efrog (1479-1527)
- Bridget o Efrog (1480-1517)