Brwydr Bosworth
| Brwydr Bosworth | |||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Rhan Rhyfeloedd y Rhosynnau | |||||||
Harri Tudur, y cyntaf o frenhinllin y Tuduriaid |
|||||||
|
|||||||
| Cydryfelwyr | |||||||
| Arweinwyr | |||||||
| Rhisiart III, brenin Lloegr† | Iarll Richmond Iarll Rhydychen |
||||||
| Nerth | |||||||
| 10,000 | 5,000 | ||||||
| Anafusion a cholledion | |||||||
| 1,000 | 100 | ||||||
Brwydr Bosworth neu Frwydr Maes Bosworth oedd y frwydr olaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau a ymladdwyd ar 22 Awst, 1485.
Roedd Harri Tudur wedi glanio ym Mill Bay, ger Dale yn Sir Benfro, ar 7 Awst, gyda byddin fechan o Lancastriaid, yn Ffrancwyr, Llydawyr ac Albanwyr yn bennaf, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal Cefn Digoll ger Y Trallwng ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Dywedir bod Harri wedi ymgynghori â'r brudwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn yn ei blasdy bychan ym Mathafarn ar ei ffordd yno i gael ei farn ; chwaraeodd y cerddi brud a gylchredai yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Harri Tudur fel modd i ysbrydoli ei gefnogwyr yng Nghymru i gredi mai ef oedd y Mab Darogan hirddisgwyliedig a fyddai'n adfer Ynys Prydain i feddiant y Brythoniaid, gan wireddu'r hen ddarogan. Erbyn iddo gyrraedd Cefn Digoll roedd ganddo fyddin o tua 5,000.
Roedd gan Rhisiart III, brenin Lloegr fyddin gryn tipyn yn fwy, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle gerllaw Sutton Cheney a Market Bosworth yn Swydd Gaerlŷr yng nghanolbarth Lloegr, ond mae dadl ynglŷn â'r union leoliad. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII.
Llinell Amser [golygu]
- 7 Awst - Glaniodd Harri yn Mill Bay, Dale, ger Hwlffordd
- 7 Awst - 15 Awst – Gorymdeithiodd trwy Gymru yn casglu mwy o ddynion
- 21 Awst – Cyrhaeddod Bosworth, ger Caerlyr
- 22 Awst – Brwydr Bosworth
Llyfryddiaeth [golygu]
- Emyr Wyn Jones, Bosworth Field: A Welsh Perspective (1984)
- A.L. Rowse, Bosworth Field and the Wars of the Roses (1966)