Goronwy ab Ednyfed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Goronwy ab Ednyfed (tua 1205? - 17 Hydref, 1268) oedd distain Teyrnas Gwynedd yn oes Llywelyn ap Gruffudd. Ei frawd oedd Tudur ab Ednyfed, a olynodd Goronwy fel distain.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Roedd Goronwy (ceir y ffurf 'Goronw' weithiau) yn fab i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr, a Gwenllian ferch yr Arglwydd Rhys. Mae'n bosibl fod enw Goronwy ymhlith y rhestr o dystion a geir i un o gytundebau Llywelyn Fawr mor gynnar â 1222. Mae'n debyg felly ei fod wedi gwasanaethu fel swyddog llys gyda'i dad cyn cymryd drosodd fel distain Gwynedd ar ei farwolaeth yn 1246, neu yn y blynyddoedd rhwng hynny a 1258. Ond mewn un ffynhonnell (yn unig), dywedir mai un arall o feibion Ednyfed, Gruffudd ab Ednyfed, oedd distain Gwynedd o 1246 hyd 1256. Felly ceir peth ansicrwydd am yr olyniaeth yn y cyfnod hwnnw.[1]

Gwyddys i sicrwydd ei fod yn dyst i ddogfennau sy'n ymwneud â Gwynedd rhwng 1258 ac 1268, dan Lywelyn ap Gruffudd. Fel distain Gwynedd, arweiniodd fyddin nerthol gyda Maredudd ap Rhys, Rhys Fychan a Maredudd ab Owain o Ddeheubarth (perthnasau gwaed i Oronwy ill tri) yn erbyn Normaniaid Gwent a lluoedd brenin Lloegr yno ym mis Mawrth 1263. Y cyfeiriad olaf ato yn y dogfennau swyddogol yw fel cymrodeddwr i gymrodi rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Gilbert de Clare ar ôl cyrchoedd Llywelyn ar Forgannwg, dyddiedig 27 Medi, 1268.[1]

Roedd gan Oronwy dir gan ei dad Ednyfed ym Môn, Arllechwedd a Cheredigion.[1]

Bu farw Goronwy ar noswyl Luc, sef 17 Hydref 1268, yn ôl Brut y Tywysogion:

'Blwyddyn wedi hynny y bu farw Goronw fab Ednyfed, distain i'r tywysog, noswyl Sain Luc Efenglywr, gŵr ardderchog yn arfau a hael o roddion a doeth ei gyngor a chywir ei weithred a digrif ("hyfryd") ei eiriau.'
(Brut y Tywysogion 1268, orgraff ddiweddar).[1]

Canodd y Prydydd Bychan farwnad iddo. Mae'r testun yn fylchog iawn ac nid yw'n ychwanegu odid dim i'n gwybodaeth. Canodd Bleddyn Fardd farwnad iddo yn ogystal, sy'n cyfeirio at y cyrch ar Went a'r golled ar ei ôl. Mae'r ffaith iddo farw mor fuan ar ôl y brwydro yng Ngwent yn awgrymu ei fod wedi ei anafu yno, ond does dim prawf am hynny.[2]

Cof[golygu]

Ond cedwir cof am Oronwy ab Ednyfed mewn englyn poblogaidd sydd i'w cael mewn sawl llawysgrif. Mae'n tadogi'r geiriau hyn ar ysbryd Goronwy ar ôl marwolaeth Llywelyn yn 1282:

Dywed i wŷr Gwynedd galon-galed
Mai myfi yw Gronw, gwirfab Ednyfed.
Pe buaswn i byw gyd'm llyw
Nis lladdesid cyn hawsed.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984).
  2. 2.0 2.1 Rhian M. Andrews et al. (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996)
O'i flaen :
Ednyfed Fychan
Disteiniaid Gwynedd
Goronwy ab Ednyfed
Olynydd :
Tudur ab Ednyfed