Dafydd Johnston

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Johnston
Ganwyd20 Hydref 1955 Edit this on Wikidata
Swydd Efrog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd, cyfarwyddwr, golygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Ysgolhaig yw Dafydd Johnston (ganwyd 1955), a fagwyd yn Swydd Efrog, Lloegr ac sydd wedi dysgu Cymraeg a dod yn un o'r prif arbenigwyr cyfoes ar farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, yn enwedig gwaith Beirdd yr Uchelwyr. Ef yw cyfarwyddwr presennol (2013) Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chyd-olygydd Y Bywgraffiadur Cymreig.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Dafydd Johnston i ddysgu Cymraeg yn drwyadl ac ymsefydlodd yng Nghymru. Apwyntiwyd ef yn uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac wedyn yn athro ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ei waith yn cynnwys golygiadau safonol o waith Iolo Goch a Lewys Glyn Cothi, golygiad a chyfieithiad o ddetholiad o ganu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol, astudiaeth fanwl o waith Beirdd yr Uchelwyr, golygiad o waith y bardd Saesneg Idris Davies a chyflwyniad Saesneg poblogaidd i hanes llenyddiaeth Gymraeg. Arweiniodd yr Athro Johnston brosiect ymchwil rhyngadrannol dan nawdd yr AHRC (2001–2006) sef golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym ar ffurf ddigidol: [1] Archifwyd 2007-04-28 yn y Peiriant Wayback.. Bu'n gyd-ymchwilydd ar Brosiect Guto'r Glyn (2008-12) yn y Ganolfan ac mae'n Brif Olygydd y cylchgrawn Studia Celtica, ac ers 2014 mae'n Gyd-olygydd y Bywgraffiadur Cymreig.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Eraill[golygu | golygu cod]

Trosglwyddiad Cerddi Gutor Glyn, yn Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis ac Ann Parry Owen (goln), Gwalch Cywyddau Gwŷr: Ysgrifau ar Gutor Glyn a Chymrur Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 21-51.

  • Cyd-Olygydd (gyda Mary-Ann Constantine), Footsteps of Liberty and Revolt; ysgrifau ar Gymru a Gwrthryfel Ffrainc (Caerdydd, UWP, 2013)
  • Monastic Patronage of Welsh Poetry, Janet Burton a Karen Stöber (goln), Monastic Wales: New Approaches (Caerdydd, 2013), 177-90.
  • Cywydd Newydd gan Lewys Glyn Cothi, Dwned, 18 (2012), 49-60.
  • Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym 1789 a'r Chwyldro Ffrengig, Llên Cymru, 35 (2012), 32-53.
  • Towns in Medieval Welsh Poetry, yn Helen Fulton (gol.), Urban Culture in Medieval Wales (Caerdydd, 2012), 95-115.
  • Tywydd Eithafol a Thrychineb Naturiol mewn Dwy Farwnad gan Iolo Goch, Llên Cymru, 33 (2010), 51-60.
  • Cyd-olygydd (gyda Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans, A. Cynfael Lake, Elisa Moras a Sara Elin Roberts), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 2010), xxv + 760tud.
  • Hywel ab Owain Gwynedd a Beirdd yr Uchelwyr, yn Nerys Ann Jones (gol.), Hywel ab Owain Gwynedd: Bardd-Dywysog (Caerdydd, 2009), tud. 134–51.
  • Semantic Ambiguity in Dafydd ap Gwilyms “Trafferth mewn Tafarn” , Cambrian Medieval Celtic Studies , 56 (2008), 59–74.
  • Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd, 2005).
  • Early translations of Dafydd ap Gwilym, yn Alyce von Rothkirch a Daniel Williams (goln.), Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (Caerdydd, 2004), tud. 158–72.
  • Dafydd ap Gwilym and Oral Tradition, Studia Celtica, XXXVII (2003), 143–61.
  • Oral Tradition in Medieval Welsh Poetry: 1100–1600, Oral Tradition, 18/2 (2003), 192–3.
  • Bywyd marwnad: Gruffudd ab yr Ynad Coch ar traddodiad llafar, yn Iestyn Daniel et al. (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, tud. 200–19.
  • Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998).
  • gyda N. G. Costigan a R. Iestyn Daniel, Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).
  • Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995).
  • A Pocket Guide: The Literature of Wales (Caerdydd, 1994).
  • The Complete Poems of Idris Davies (Caerdydd, 1994).
  • Galar y Beirdd / Poets Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Tafol, 1993).
  • Iolo Goch: The Poems, Welsh Classics Series (Llandysul, 1993).
  • Canu Maswedd yr Oesoedd Canol / Medieval Welsh Erotic Poetry (Tafol, 1991).
  • Blodeugerdd Barddas o'r 14g (Barddas, 1989).
  • Iolo Goch (Gwasg Pantycelyn, 1989).
  • Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988).