Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sir Fynwy bresennol
CymruFynwy.png
Sir Fynwy cyn 1974
CymruFynwyTraddod.png

Sir yn ne-ddwyrain Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire) a grewyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Roedd yr hen Sir Fynwy yn un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhwng 1974 a 1996 bu'r ardal yn rhan o sir Gwent. Trefynwy, ar Afon Mynwy, yw prif dref a chanolfan weinyddol y sir. Mae'r sir yn cynrychioli pen deheuol Cymru yn yr hen ddywediad "O Fôn i Fynwy" (h.y. 'Cymru benbaladr').

Hanes[golygu]

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r diriogaeth yn rhan o deyrnas Gwent. O 1069 ymlaen syrthiodd rhan helaeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid a daeth yn rhan o dir Y Mers, er bod rhannau o'r ucheldir yn dal yn nwylo arglwyddi Cymreig lleol.

Crëwyd yr hen Sir Fynwy yn y flwyddyn 1542 allan o'r hen arglwyddiaethau yn yr ardal. Roedd yn cynnwys Casnewydd ac yn ffinio â Swydd Gaerloyw i'r dwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd-ddwyrain, Sir Frycheiniog i'r gogledd a Morgannwg i'r gorllewin.

Daeth yn rhan o sir Gwent yn 1974. Ffurfwyd y sir newydd yn 1996.

Oriel[golygu]

Daearyddiaeth[golygu]

Trefi a phrif bentrefi[golygu]

Cestyll[golygu]



Siroedd a Dinasoedd Cymru Map Cymru 1996 heb enwau.svg

Siroedd, Bwrdreistrefi Sirol a Dinasoedd presennol
Abertawe | Blaenau Gwent | Bro Morgannwg | Caerdydd | Caerffili | Casnewydd | Castell-nedd Port Talbot | Ceredigion | Conwy | Gwynedd | Merthyr Tudful | Pen-y-bont ar Ogwr | Powys | Rhondda Cynon Taf | Sir Benfro | Sir Ddinbych | Sir Fynwy | Sir y Fflint | Sir Gaerfyrddin | Torfaen | Wrecsam | Ynys Môn
Siroedd gweinyddol 1974-1996
Clwyd | De Morgannwg | Dyfed | Gorllewin Morgannwg | Gwent | Gwynedd | Morgannwg Ganol | Powys
Siroedd gweinyddol cyn ad-drefnu 1974
Sir Aberteifi | Sir Benfro | Sir Drefaldwyn | Sir Ddinbych | Sir Fynwy | Sir Faesyfed | Sir Feirionnydd | Sir Fôn | Sir Forgannwg | Sir Frycheiniog | Sir y Fflint | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaernarfon


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato