Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd ac uchelwr o ogledd-ddwyrain Cymru oedd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c.1485-1553). Roedd yn byw ym mhlas Lleweni Fechan, ger Llanelwy.

Cymerodd ran fel comisiynydd yn Eisteddfod Caerwys, 1523, gyda Tudur Aled a thri bardd arall. Er ei fod yn feistr llwyr ar y gynghanedd a rheolau Cerdd Dafod, nid oedd yn fardd proffesiynol ond yn ŵr bonheddig a ganai er pleser. Mae'r rhan fwyaf o'i waith yn gerddi serch traddodiadol. Ond canodd ar destunau eraill hefyd, yn cynnwys cerddi gofyn a chanu ar bynciau crefyddol.

Cyfansoddodd farwnad nodedig i'w gyfaill Tudur Aled lle mae'n ei gymharu â beirdd mawr y gorffennol fel Taliesin ac Iolo Goch ac yn canmol ei ddysg.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • J. C. Morrice (gol.), Detholiad o waith Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (Bangor, 1910)

Ceir testun marwnad Gruffudd i Tudur Aled yn:

  • T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, 2 gyfrol (Caerdydd, 1926). Atodiad.
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer