Castell Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Penrhyn tua 1880.
Y tŵr (de) a golygfa ar ochr y bloc canolog (chwith).

Tŷ gwledig ydy Castell Penrhyn, sy'n sefyll mewn parcdir eang ar bwys pentref Llandegai ger Bangor, Gwynedd. Mae hi wedi ei hadeiladu ar ffurf castell Normanaidd. Yn wreiddiol, roedd yn faenordy canoloesol caerog, a sefydlwyd gan Ednyfed Fychan yn hanner cyntaf y 13eg ganrif. Yn 1438, cafodd Ioan ap Gruffudd drwydded i'w droi'n amddiffynfa gaerog (trwydded crenellate) a chodwyd cadarnle a gorthwr yno. Ail-adeiladodd Samuel Wyatt yr adeilad yn y 1780au.

Adeiladwyd y castell presennol rhwng 1820 a 1845 i gynlluniau Thomas Hopper, a ymestynodd a thrawsnewidiodd yr adeiliad yn ddi-adnabyddadwy. Er hyn, mae grisiau troellog o'r adeilad gwreiddiol yn dal i'w weld yn y seler bwaog a chynhwyswyd hen gwaith maen yn y strwythr newydd. Clientiaid Hopper oedd y teulu Pennant, a oeth wedi ennill eu cyfoeth drwy siwgr Siamaica a chwareli llechi lleol. Gall rhai weld hyn fel cofeb i'r dioddefaint a gafodd yr rhain a weithiodd drost y Pennantiaid.

Mae Penrhyn yn un o'r ffug gestyll y 19eg ganrif a edmygir fwyaf; gelwodd Christopher Hussey hi'n, "the outstanding instance of Norman revival." [1] Mae'r castell yn gyfansoddiad darluniadol sy'n ymestyn dros 600 troedfedd sgwâr sy'n cynnwys ystafelloedd teuluol, ac yn y prif floc a adeiladwyd o amgylch yr adeilad gwreiddiol mae stablau ac adain gwasanaeth.

Dyluniodd Hopper yr holl addurniadau mewnol cyntaf mewn steil cyfoethog ond cynnil Normanaidd, gyda llawr o waith plastr a cherfio pren a charreg manwl. Mae gan y castell hefyd ychydig o ddodrefn a ddylunwyd yn arbenig yn y steil Normanaidd, gan gynnwys gwely o lechi yn pwyso tunnell a ddefnyddwyd gan y Frenhines Victoria pan ymwelodd hi â'r castell yn 1859 ar un o'i hymweliadau prin â Chymru.

Yn 1951 derbynwyd y castell a 40,000 acer (160 km²) o dir gan y Trysorlys yn lle treth etifeddiaeth. Erbyn heddiw mae'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae ar agor i'r cyhoedd. Mae atyniadau Penrhyn yn cynnwys gerddi ffurfiol o fewn waliau, a gerddi anffurfiol estynedig, amgueddfa dolïau, ac Amgueddfa Rheilffordd Castell Penrhyn (amgueddfa rheilffordd fodel), a maes chwarae antur. Ceir golygfeydd o fynyddoedd Eryri oddi yno.

Cost[golygu]

Mae cost adeiladu'r 'castell' estynedig hon yn ddadleuol. Amcangyfriwyd iddo gostio tua £150,000 i'r teulu Pennant, sy'n cyfateb i tua £49,500,000 yn arian heddiw.

Ffynonellau[golygu]

  1. English Country Houses: Late Georgian (argraffiad 1988), tudalen 181. ISBN 1-85149-032-9

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: