Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Sefydliad cadwraethol, elusennol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol, a elwir fel arfer Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw'r Ymddiriedolaeth yn gweithredu yn yr Alban, ble ceir sefydliad annibynol, sef Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.
Yn ôl ei wefan:
"Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio i gadw a gwarchod yr arfordir, cefn gwlad ac adeiladau o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy ofalu ymarferol a chadwraeth, trwy addysgu a hysbysu, a thrwy annog miliynau o bobl i fwynhau eu treftadaeth genedlaethol.""
Mae'r ymddiriedolaeth yn berchen ar lawer o fannau gan gynnwys tai a gerddi hanesyddol, henebion diwydiannol a safleoedd cymdeithasol, hanesyddol. Mae'n un o dirfeddianwyr mwyaf gwledydd Prydain, ac mae'n berchen ar nifer fawr o ardaloedd hardd sydd ar agor i'r cyhoedd am ddim. Hwn yw'r sefydliad sydd â'r aelodaeth fwyaf hefyd, ac mae'n un o'r elusennau mwyaf yng ngwledydd Prydain o ran incwm ac asedau.
Yn 2009 nid oedd gan yr ymddiriedolaeth yr un cynrychiolydd o Gymru ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.[1]
Gweler hefyd [golygu]
Cystylltiadau Allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol