Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn (1737 - 21 Ionawr 1808) yn dirfeddiannwr, perchennog caethweision a'r gŵr cyntaf i ddatblygu diwydiant llechi Cymru ar raddfa fawr pan gychwynodd Chwarel y Penrhyn.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Roedd y Pennantiaid o gyff Pennantiaid Bychtwn a Downing yn Sir Fflint. Bu Richard Pennant yn Aelod Seneddol dros Peterfield yn Lloegr o 1761 hyd 1767, yna'n un o Aelodau Seneddol Lerpwl 1767-1780, ac eto o 1784 hyd 1790, pan ildiodd ei sedd i Syr Banastre Tarleton, oedd fel Pennant yn bleidiol i gaethwasiaeth. Yn 1796 ceisiodd am sedd Sir Gaernarfon, ond curwyd ef gan Syr Robert Williams. Yn 1783 crewyd ef yn Farwn 1af Penrhyn yn Swydd Lough yn Iwerddon.[1]

Yr oedd teulu Pennant yn berchen tiroedd helaeth yn Jamaica, ac yn 1765 priododd Ann Susannah Warburton, aeres teulu Warburton, oedd wedi etifeddu hanner stad y Penrhyn. Yn 1785 prynodd yr hanner arall o'r stad oddi wrth deulu Yonge. Datblygodd Chwarel y Penrhyn i fod y chwarel fwyaf yng Nghymru. Ef oedd y meistr tir cyntaf yng Nghymru i redeg y busnes llechi ei hun, yn hytrach na chymeryd rhent gan bartneriaethau o chwarelwyr. Yn 1798 agorodd Dramffordd Llandegai i gario llechi o’r chwarel i borthladd newydd Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Yn 1801 agorodd reilffordd i gymeryd lle'r dramffordd, Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, un o’r rheilffyrdd cynharaf.[1]

Dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Enwyd merch Dawkins, Juliana, a'i gŵr fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymeryd y cyfenw Pennant. Yn ddiweddarach daeth gŵr Juliana yn Farwn Penrhyn fel Edward Gordon Douglas-Pennant.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).