Chwarel y Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llwytho llechi i wagenni yn Chwarel y Penrhyn tua 1913.
Chwarel y Penrhyn o Fraich Melyn; ffotograff gan John thomas, 1885.

Chwarel y Penrhyn gerllaw Bethesda , Gwynedd, oedd y chwarel lechi fwyaf yng Nghymru yn ystod oes aur y diwydiant llechi yn ail hanner y 19eg ganrif. Y chwarel yma a Chwarel Dinorwig oedd y chwareli llechi mwyaf yn y byd yn y cyfnod yma. Mae’r chwarel yn parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa lawer llai bellach. Saif ar lechweddau gogleddol Carnedd y Filiast.

Blynyddoedd Cynnar[golygu]

Ceir y cofnod cyntaf o weithio llechi yn yr ardal yn 1413, pan dalwyd 10 ceiniog yr un i rai o denantiaid Gwilym ap Gruffudd am gynhyrchu 5,000 o lechi. Mae cerdd gan Guto'r Glyn yn y 15fed ganrif yn gofyn i Ddeon Bangor yrru llwyth o lechi iddo o Aberogwen, ger Bangor, i Ruddlan i’w rhoi ar do tŷ yn Henllan ger Dinbych.

Cofnodir allforio llechi o Ystad y Penrhyn o 1713, pan yrrwyd 14 llwyth llong, 415,000 o lechi i gyd, i Ddulyn. Yr adeg yma roedd y llechi yn cael eu cario i’r porthladd ar gefnau ceffylau, ac yn nes ymlaen ar droliau. Hyd diwedd y 18fed ganrif roedd chwareli bychain yn cael eu gweithio gan bartneriaethau o bobl leol, oedd yn talu rhent i’r tirfeddiannwr. Mae llythyr gan asiant Ystad y Penrhyn, John Paynter, yn 1738 yn cwyno fod cystadleuaeth oddi wrth lechi Chwarel y Cilgwyn yn effeithio ar werthiant llechi o Ystad y Penrhyn. Nid oedd chwarelwyr y Cilgwyn yn gorfod talu rhent i feistr tir, felly gallent werthu’r cynnyrch yn rhatach. Rhwng 1730 a 1740 dechreuodd y Penrhyn gynhyrchu llechi mwy, a rhoddasant enwau iddynt a ddaeth yn gyffredin trwy’r diwydiant, o’r Duchesses, 24 modfedd wrth 12 modfedd, trwy’r Countesses, Ladies a Doubles i’r lleiaf, y Singles.

Datblygiad Chwarel y Penrhyn[golygu]

Richard Pennant, yn ddiweddarach Arglwydd Penrhyn oedd y tirfeddiannwr cyntaf yng Nghymru i ddechrau gweithio’r chwareli ei hun. Yn 1782 cafwyd gwared ar y partneriaethau annibynnol ac apwyntiwyd James Greenfield fel asiant. Yr un flwyddyn agorodd Pennant chwarel newydd yng Nghaebraichycafn ger Bethesda, a gafodd yr enw Chwarel y Penrhyn yn nes ymlaen. Erbyn 1792, roedd y chwarel yn cyflogi 500 o ddynion ac yn cynhyrchu 15,000 tunnell o lechi y flwyddyn.

Yn 1799 dechreuodd Greenfield system y "galeriau", terasau enfawr rhwng 9 medr a 21 medr o ddyfnder. Yn 1798 roedd Arglwydd Penrhyn wedi agor Tramffordd Llandegai, oedd yn defnyddio ceffylau i dynnu’r wagenni, i gario llechi o’r chwarel i’r porthladd, ac yn 1801 agorwyd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, un o’r rheilffyrdd cynharaf. Datblygwyd porthladd yn Abercegin ger Bangor dan yr enw Porth Penrhyn.

Yn 1859 amcangyfrifodd y Mining Journal fod Chwarel y Penrhyn yn gwneud elw o £100,000 y flwyddyn.

Anghydfod diwydiannol[golygu]

Chwarel y Penrhyn tua 1900.

Ffurfiwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, a’r un flwyddyn bu anghydfod diwydiannol yn Chwarel y Penrhyn, a ddiweddodd mewn buddugoliaeth i’r gweithwyr. Yn 1885 cymerodd George Sholto Gordon Douglas-Pennant yr awenau yn lle ei dad, a’r flwyddyn wedyn apwyntiwyd E. A. Young yn rheolwr. Gwaethygodd y berthynas â’r gweithwyr, ac ym mis Medi 1986 dechreuodd anghydfod a ddisgrifid gan y rheolwyr fel streic, tra dywedai’r gweithwyr eu bod wedi eu cloi allan o’r chwarel. Aeth y gweithwyr yn ôl i’r chwarel yn Awst 1897, fwy neu lai ar delerau Arglwydd Penrhyn. Ar 22 Tachwedd 1900 dechreuodd ail streic (neu ail gloi-allan), a barhaodd am dair blynedd. Roedd yr achosion yn gymhleth, ond roeddynt yn cynnwys cynnydd yn yr arfer o osod rhannau o’r chwarel i gontractwyr. Yn hytrach na chytuno ar eu bargeinion eu hunain, roedd y chwarelwyr wedyn yn gweithio am gyflog i’r contractwyr. Nid oedd gan yr undeb ddigon o arian i dalu tâl streic digonol, a bu cyni mawr ymysg y 2,800 o weithwyr. Ail agorodd Arglwydd Penrhyn y chwarel ym mis Mehefin 1901, a dychwelodd tua 500 o weithwyr iddi. Ystyrid hwy yn “Fradwyr” gan y gweddill. Yn y diwedd bu raid i’r gweithwyr ddychwelyd i’r chwarel ym mis Tachwedd 1903 ar delerau Arglwydd Penrhyn. Gwrthodwyd ail-gyflogi llawer o’r gweithwyr oedd wedi bod yn amlwg yn yr undeb, a gadawodd llawer o weithwyr yr ardal yn barhaol. Gadawodd yr anghydfod etifeddiaeth o chwerwder yn ardal Bethesda.

Mae Chwarel y Penrhyn y parhau i gynhyrchu llechi, ond ar raddfa llawer llai nag yn ystod oes aur y diwydiant. Yn 1995, cynhyrchai bron 50% o gynnyrch llechi y Deyrnas Unedig. Eiddo Alfred McAlpine PLC yw’r chwarel bellach.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Hughes, J. Elwyn a Bryn Hughes. 1979. Chwarel y Penrhyn : ddoe a heddiw (Chwarel y Penrhyn)
  • Jones, R. Merfyn. 1981. The North Wales quarrymen, 1874-1922 Studies in Welsh history 4. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0776-0
  • Lindsay, Jean. 1974. A history of the North Wales slate industry. David and Charles. ISBN 0-7153-6264-X
  • Richards, Alun John. 1995. Slate quarrying in Wales Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-319-4
  • Richards, Alun John. 1999. The slate regions of north and mid Wales and their railways Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-552-9
  • Roberts, T. Theodore. 1999. Y Felin Fawr (Chwarel y Penrhyn) : ei hanes a'i rhamant (Gwasg Gee) ISBN 0707403308

dolen allanol[golygu]